Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i deuluoedd

Llongyfarchiadau ar eich beichiogrwydd.

Mae mwy na 28,000 o fabanod yn cael eu geni ledled Cymru bob blwyddyn ac mae bydwragedd, meddygon, gweithwyr cymorth gofal mamolaeth a staff cymorth ymroddedig eich bwrdd iechyd wedi ymrwymo i roi gofal personol o’r safon uchaf i chi er mwyn galluogi profiad geni cadarnhaol.

Ar y tudalennau hyn, ein nod yw ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych am feichiogrwydd a rhoi genedigaeth, yn ogystal â darparu dolenni i adnoddau a sefydliadau defnyddiol eraill.