Neidio i'r prif gynnwy

Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal

 

 

Sgroliwch i lawr neu cliciwch ar y penawdau isod i gael rhagor o wybodaeth am bob safon

 

Diogel
Amserol
Effeithiol
Effeithlon
Teg
Person-ganolog
Arweinyddiaeth
Gweithlu
Diwylliant
Gwybodaeth
Dysgu, gwella ac ymchwil
Ymagwedd systemau cyfan

 


 

 

 

____________________

 

Diogel

Mae ein system gofal iechyd yn un o ansawdd uchel sy’n ddibynadwy ac yn ddiogel iawn. Mae’n osgoi niwed y gellir ei atal, yn gwneud y gorau o’r pethau sy’n gweithio’n iawn ac yn dysgu pan fydd pethau’n mynd o chwith er mwyn eu hatal rhag digwydd eto. Eir ati i hybu ac amddiffyn iechyd, diogelwch a lles pobl; mae risgiau’n cael eu nodi a’u monitro, a lle bo modd caiff risgiau diogelwch eu lleihau neu eu hatal. Rydym yn hybu ac yn amddiffyn llesiant a diogelwch plant ac oedolion sy’n agored i niwed neu sy'n wynebu risg ar unrhyw adeg. Pan allai plant neu oedolion fod yn profi neu'n wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod, rydym yn cymryd camau priodol ac amserol ac rhoi gwybod am bryderon

____________________

 

Amserol

Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor, yr arweiniad a’r gofal o ansawdd uchel sydd eu hangen arnynt yn gyflym ac yn rhwydd, yn y lle iawn y tro cyntaf. Rydym yn gofalu am y rheini sydd â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf, a phan nodir fod triniaeth yn angenrheidiol, rydym yn trin pobl ar sail eu blaenoriaeth glinigol benodol a chytunedig.

____________________

 

Effeithiol

Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau, y gofal a’r driniaeth yn adlewyrchu arferion gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl a’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt. Rydym yn dylunio llwybrau trawsnewidiol, oes gyfan, wedi'u seilio ar dystiolaeth, sy'n ymdrin ag atal, gofal a thriniaeth ac adsefydlu, ac yn ymgorffori'r rhain yn narpariaeth gwasanaethau lleol.

____________________

 

Effeithlon

Mae ein system gofal iechyd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar werth i wella’r canlyniadau sydd bwysicaf i bobl mewn ffordd sydd mor gynaliadwy â phosibl ac sy’n osgoi gwastraff. Rydym yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau i sicrhau’r gwerth gorau mewn ffordd effeithlon. Dim ond yr hyn sydd ei angen rydym yn ei wneud, ac wrth roi triniaethau rydym yn sicrhau bod unrhyw ymyriadau yn cynrychioli’r gwerth gorau a fydd yn gwella canlyniadau i bobl.

____________________

 

Teg

Mae ein system gofal iechyd yn rhoi cyfle cyfartal i bawb gyflawni eu potensial llawn ar gyfer bywyd iach nad yw’n amrywio o ran ansawdd yn ôl y sefydliad sy'n darparu gofal, lleoliad lle caiff gofal ei ddarparu neu nodweddion personol (megis oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, dewis iaith, anabledd, crefydd neu gredoau, statws economaidd-gymdeithasol neu ymlyniad gwleidyddol). Rydym yn gwreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol yn ein system gofal iechyd.

____________________

 

Person-ganolog

Mae ein system gofal iechyd yn diwallu anghenion pobl ac yn sicrhau bod eu dewisiadau, eu hanghenion a’u gwerthoedd yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau a wneir mewn partneriaeth rhwng unigolion a’r gweithlu. Mae llesiant unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a’n staff yn bwysig i ni. Rydym yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin â charedigrwydd, empathi a thosturi bob amser ac rydym yn parchu eu preifatrwydd, eu hurddas a’u hawliau dynol. Rydym wedi ymrwymo i weithio’n well gyda’n gilydd i sicrhau bod pobl a’u teuluoedd yn ganolog i benderfyniadau, gan eu gweld fel arbenigwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol i gael y canlyniad a’r profiad gorau.

____________________

 

Arweinyddiaeth

Mae gan ein system gofal iechyd arweinyddiaeth weladwy ac iddi ffocws, ar bob lefel, a chaiff ei gweithgareddau eu llywio gan weledigaeth a gwerthoedd y sefydliadau ar gyfer ansawdd. Mae ein harweinwyr a'n rheolwyr yn arddel agwedd hirdymor, a rhanddeiliaid yn ganolog iddi, i ddatblygu gweledigaeth sefydliadol glir. Mae ganddynt y sgiliau a'r gallu priodol i greu'r amodau ar gyfer system rheoli ansawdd weithredol. Rydym yn sicrhau bod ein llywodraethiant, ein harweinyddiaeth a'n hatebolrwydd yn effeithiol wrth ddarparu gofal mewn ffordd gynaliadwy.

____________________

 

Gweithlu

Mae ein system gofal iechyd yn recriwtio, yn cadw, yn datblygu ac ymestyn rolau i sicrhau bod gennym ddigon o bobl hyderus â'r wybodaeth a'r sgiliau cywir ar gael ar yr adeg gywir i ddarparu gofal diogel. Rydym yn gwerthfawrogi ein pobl a'r ymrwymiad a'r gwydnwch a ddangosir ganddynt wrth ddarparu gofal. Mae eu llesiant yn bwysig inni, rydym yn diogelu eu hawliau ac yn eu helpu i deimlo’n dda ac yn hapus yn eu gwaith; ac yn rhoi’r offer, y systemau a'r amgylchedd iddynt allu gweithio'n ddiogel ac effeithiol. Mae ein gwaith o gynllunio’r gweithlu yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn ein pobl a meithrin, tyfu a thrawsnewid ein gweithlu i greu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

____________________

 

Diwylliant

Mae ein system gofal iechyd yn creu'r hinsawdd a'r diwylliant cywir i feithrin ac annog ansawdd a diogelwch systemau, gan werthfawrogi pobl mewn gweithle cefnogol, cydweithredol a chynhwysol fel bod ein pobl yn teimlo'n ddiogel yn seicolegol i allu mynegi pryderon a rhoi cynnig ar syniadau a dulliau newydd. Mae perthnasoedd mewn timau a chyda'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn effeithiol ac yn seiliedig ar dryloywder, atebolrwydd, ymddygiad moesegol, ymddiriedaeth a diwylliant cyfiawn, lle gall pobl ffynnu.

____________________

 

Gwybodaeth

Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael a'i bod yn cael ei rhannu’n briodol ar gyfer pawb sydd ei hangen. Rydym yn troi data’n wybodaeth drwy driongli perfformiad meintiol ac ansoddol, profiad a dulliau mesur canlyniadau i ddeall ansawdd gwasanaethau, effeithiolrwydd gwaith gwella ac effaith penderfyniadau a wneir. Rydym yn monitro, yn adrodd ac yn uwchgyfeirio dangosyddion drwy ein strwythurau llywodraethiant i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd ar bob lefel o ran dysgu, gwella ac atebolrwydd.

____________________

 

Dysgu, gwella ac ymchwil

Mae ein system gofal iechyd yn creu'r amodau a'r gallu i gael dull gweithredu ar draws sefydliadau a systemau ar gyfer dysgu parhaus, gwella ansawdd ac arloesi, ac mae’n mynd ati i'w hyrwyddo. Rydym yn defnyddio gwybodaeth newydd i ddylanwadu ar welliannau mewn ymarfer ac i lywio ein penderfyniadau. Rydym yn sicrhau bod ein gweithgarwch dysgu a gwella yn gysylltiedig â'n gweledigaeth strategol i ddarparu newid trawsnewidiol, ledled y sefydliad. Rydym yn ymrwymo i gymryd rhan mewn ymchwil oherwydd bod sefydliadau sy'n weithgar o ran ymchwil yn darparu ansawdd gofal a chanlyniadau gwell i bobl.

____________________

 

Ymagwedd systemau cyfan

Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod diogelwch mewn gofal iechyd yn mynd y tu hwnt i ddiogelwch cleifion unigol. Byddwn yn edrych o fewn ein ffiniau sefydliadol a’r tu hwnt iddynt i ddysgu sut y gallwn ddiwallu anghenion esblygol pobl mewn modd parhaus, dibynadwy a chynaliadwy. Byddwn yn cryfhau perthnasoedd ac yn gweithio gyda'n holl bartneriaid i sicrhau canlyniadau da. Mae ein polisïau yn ymgorffori'r uchelgeisiau ehangach o fewn y saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.