Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru: https://cydweithrediad.gig.cymru/ 

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei lywio gan safonau'r llywodraeth ac mae'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe WCAG yn cael eu derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn anelu at wneud y wefan hon yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr a chyflawni lefel cydymffurfio 'AA'; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau y cedwir at lefel cydymffurfio 'A' o leiaf.

Os ydych chi'n profi unrhyw fater hygyrchedd ar y wefan hon neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni.
 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon 

Fersiwn 1, cyhoeddwyd 30/11/2020

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Efallai na fydd rhannau o rai tudalennau'n gweithio'n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
  • Nid yw bob dewislen yn gwbl hygyrch
  • Nid oes disgrifiadau hygyrch mewn rhai botymau a dolenni
  • Mae rhai tudalennau'n cynnwys testun sydd â chyferbyniad lliw gwael
  • Mae rhai tudalennau'n cynnwys penawdau nad ydyn nhw wedi'u trefnu'n rhesymegol
  • Nid yw rhai tudalennau yn gwbl ddefnyddiadwy gyda'r bysellfwrdd
  • Mae gan rai tudalennau orchymyn ffocws afresymegol
  • Mae eitemau dewislen eilaidd yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • Mae gan rai ffurflenni negeseuon gwall neu labeli nad ydyn nhw'n glir
  • Ni ellir oedi na stopio rhywfaint o gynnwys symudol

     

Adborth a chysylltu 

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

 

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol. 

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Fersiwn 1, cyhoeddwyd 30/11/2020

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘RhHCG 2.1 AA’ mae gennym y problemau diffyg cydymffurfio canlynol ar hyn o bryd:

  • Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau wedi'u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd pan fyddant yn cael eu defnyddio drwy Dechnolegau Cynorthwyol.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth Lefel A
  • Mae dewislen wag yn bresennol ar rai tudalennau.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 Dosrannu Lefel A, a maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth Lefel A
  • Nid oes gan y botwm a ddefnyddir i glirio unrhyw destun a nodir yn y blwch chwilio label hygyrch.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 Enw, Swyddogaeth, Gwerth Lefel A
  • Mae'r botwm/ddolen a ddefnyddir i newid iaith yn cyflwyno label gwahanol, llai penodol i Dechnolegau Cynorthwyol nag i ddefnyddwyr gweledol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau Lefel A
  • Nid oes gan rywfaint o'r testun ddigon o gyferbynnedd â'i gefndir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.3 Cyferbynnedd (Isafswm) Lefel AA. 
  • Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau yn eu trefn resymegol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd Lefel A
  • Mae rhai rhannau o rai tudalennau na ellir eu defnyddio'n llawn gyda'r bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.1.1 Bysellfwrdd Lefel A
  • Mae gan rai elfennau drefn ffocws afresymegol.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 Trefn Ffocws Lefel A
  • Mae eitemau dewislen eilaidd yn newid trefn pan ddewisir eitem.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.2.3 Gwe-lywio Cyson Lefel AA
  • Mae gan rai ffurflenni negeseuon gwall neu labeli nad ydynt yn glir.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau Lefel A
  • Mae rhai carwselau (a ddangosir ar sgriniau bach yn unig neu ar lefelau chwyddo uchel) nad oes ganddynt ddull o oedi nac atal eu symudiad. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.2.2 Oedi, Atal, Cuddio Lefel A

 

Baich anghymesur

Mae yna rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).

  • Adroddiadau perfformiad a allai gynnwys data adrodd/ystadegol cymhleth
  • Polisïau a gweithdrefnau wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018
  • Cyhoeddiadau â dolen o’n tudalenau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys logiau datgelu
  • Cyhoeddiadau a alla’i fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid eu gosod gan drydydd parti. 

     

Llywio a chyrchu gwybodaeth

  • Nid oes unrhyw ffordd i neidio’r cynnwys sy’n cael ei ail-adrodd ar bennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i’r prif gynnwys’).
  • Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.

     

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

 

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.


 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Tachwedd 2020. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Mehefin 2021.