Neidio i'r prif gynnwy

Ffrydiau gwaith

Dan gyfarwyddyd Bwrdd y Rhwydwaith Gofal Critigol, mae'n ofynnol i bob bwrdd iechyd ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer gwelyau a’r gweithlu.

Er mwyn hwyluso hyn, mae gweithgor capasiti wedi’i sefydlu i barhau â’r argymhellion a amlinellwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ofal critigol, a gyhoeddwyd yn 2019.  

Gwnaed argymhellion i gynyddu capasiti yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd. Bydd y grŵp yn ystyried y newidiadau i wasanaethau ers cyhoeddi’r adroddiad, megis effaith y pandemig, canoli/ad-drefnu unedau, cyflwyno’r unedau gofal ôl-anesthetig ac ardaloedd anadlol gofal uchel/cymorth anadlu anfewnwthiol.  

Bydd y gofyniad am welyau gofal critigol yn cael ei gyfrifo drwy fodelu mathemategol i ddarparu dull mwy cywir o amcangyfrif nifer y gwelyau. Bydd yn cael ei bennu gan gyfluniad yr ysbyty yn hytrach na maint y boblogaeth yn unig. Bydd nifer y gwelyau gofal critigol sydd eu hangen yn dibynnu ar gapasiti a gallu'r ysbyty dan sylw.

Sefydlwyd y fforwm uwch-nyrsys gofal critigol i alluogi’r nyrsys gofal critigol uchaf eu statws yng Nghymru i ddod at ei gilydd a rhannu materion a phryderon ac i ddatblygu a lledaenu arferion gorau nyrsio.

Ei brif ddiben yw datblygu nyrsio gofal critigol i oedolion yng Nghymru a bwrw ymlaen â blaenoriaethau'r Prif Swyddog Nyrsio.

Roedd yr adroddiad Gorchwyl a Gorffen ar gyfer gofal critigol (2019) yn argymell ehangu unedau gofal ôl-anesthetig (PACU) i gynnig gofal gwell i gleifion risg uchel ar ôl llawdriniaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn canolbwyntio ar addysg arbenigol i staff sy’n gweithio yn y maes, gan gefnogi byrddau iechyd i roi gwelyau PACU ar waith a datblygu set ddata i gasglu canlyniadau cleifion PACU a dangos sut mae gwelyau PACU yn cefnogi Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio Llywodraeth Cymru.

Mae Rhwydwaith Addysg Gofal Critigol Cymru Gyfan yn ceisio sicrhau gwelliannau mewn addysg nyrsio gofal critigol yng Nghymru. Yr aelodaeth yw addysgwyr ymarfer nyrsio gofal critigol o’r byrddau iechyd prifysgol lleol a darlithwyr gofal critigol o brifysgolion Cymru.

Helpodd i sefydlu cwrs hyfforddi gofal critigol ledled y DU ar gyfer nyrsys sydd bellach yn cael ei ddarparu gan dair prifysgol yng Nghymru.

Mae'r grŵp hefyd yn cynorthwyo addysgwyr ymarfer nyrsio i gyflwyno cymwyseddau ledled y DU ar gyfer nyrsys gofal critigol.

Mae’r grŵp yn gwneud argymhellion i Fwrdd y Rhwydwaith Gofal Critigol ar ddatblygu’r gwasanaethau adsefydlu a dilynol sydd eu hangen yng Nghymru yn y tymor byr, canolig a hir (yn seiliedig ar ganllaw Bywyd ar ôl Salwch Difrifol yr FICM a chanllawiau a safonau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Mae’r grŵp wedi:

  • Datblygu manyleb gwasanaeth amlbroffesiynol Cymru gyfan ar gyfer gwasanaethau dilynol gofal critigol ac adsefydlu i’w mabwysiadu’n lleol a’u rhoi ar waith a bydd yn archwilio presenoldeb mewn clinigau dilynol ledled Cymru
  • Datblygu mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) a mesurau profiadau a adroddir gan gleifion (PREMs) 
  • Adeiladu ar wefan 'Cadw Fi'n Iach' Ysbyty Athrofaol Cymru fel y bydd ar gael i Gymru gyfan. Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am adferiad gofal critigol i gleifion a theuluoedd
  • Cytuno ar bresgripsiwn adsefydlu i'w ddefnyddio.

Mae gwaith parhaus yn cynnwys datblygu rhaglen addysg ac adolygiad gan gymheiriaid o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Mae adolygiad gan gymheiriaid yn broses i ysgogi gwelliant parhaus mewn ansawdd sy'n cynnwys hunanasesu, ymholi a dysgu rhwng timau o arbenigedd a gwybodaeth gyfatebol. Nid arolygiad yw adolygiad gan gymheiriaid; nid yw’n ymwneud â cheisio datrys problemau chwaith. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â defnyddio 'cyfeillion beirniadol' i 'adolygu' systemau sicrwydd mewnol ar gyfer nodi a rhannu arferion da ac awgrymu meysydd i'w gwella.

Mae'r rhwydwaith gofal critigol wedi llunio proses adolygu gan gymheiriaid ar gyfer gofal critigol yn seiliedig ar Fframwaith Adolygu Cymheiriaid GIG Cymru (WHC/2017037).

Mae’r broses adolygu gan gymheiriaid fel a ganlyn: 

Mae pob bwrdd iechyd lleol yn cynnal hunanasesiad o’i wasanaethau gofal critigol o’i gymharu â set o safonau y cytunwyd arnynt ac yn cyflwyno ei asesiad ynghyd â thystiolaeth ategol i’r panel adolygiad gan gymheiriaid.  Mae’r panel yn cynnwys meddyg, nyrs, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd a rheolwr gofal critigol ac (yn ddelfrydol) person lleyg. Yna mae'r panel yn adolygu'r dystiolaeth a'r hunanasesiad ac yn llunio ei farn ei hunan ar gryfderau a gwendidau'r bwrdd iechyd.

Mae'r panel yn ymweld ag unedau gofal critigol y bwrdd iechyd ac yn cyfarfod â staff gofal critigol i edrych ar yr amgylchedd a gofyn cwestiynau i staff a rheolwyr. Yn dilyn yr ymweliad, llunnir adroddiad sy'n nodi cryfderau a gwendidau'r bwrdd iechyd, ac yn dilyn hynny mae'r bwrdd iechyd yn llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw wendidau a nodwyd. 

Mae pob uned gofal critigol wedi cael ei hadolygu gan gymheiriaid unwaith ac wedi llunio cynllun gweithredu i wella ei gwasanaethau. Mae enghreifftiau o arferion da wedi cael eu rhannu ar draws y rhwydwaith.