Neidio i'r prif gynnwy

Tystebau


Mae SEREN Connect wedi ennill gwobrau dwbl yn yr rhaglen Ansawdd mewn Gofal Diabetes (Quality in Care Diabetes). 

Dyma beth mae pobl yn ei ddweud amdano.

Rhaglen Addysg Diabetes y Flwyddyn 2020

Sylwadau’r beirniaid:

“Mae prosiect SEREN Connect wedi nodi mai un o’r problemau mawr ym maes addysg pediatrig a phobl ifanc yw nad oes unrhyw raglenni cenedlaethol ac mae llawer o bobl wedi bod yn ceisio eu datblygu heb lwyddiant gwirioneddol. Mae'r gwaith hwn wedi gwneud hynny ac mae hefyd yn hynod arloesol, ac mae’r canlyniadau’n wych."

Enillydd Gwobr Arbennig y Beirniaid 2020

Sylwadau’r beirniaid:

“Mae prosiect SEREN Connect yn drawiadol iawn, ac mae’r canlyniadau’n rhyfeddol. Mae’n ddefnydd effeithiol iawn o amser, arian ac adnoddau clinigol, gan ddangos cyfranogiad sylweddol gan grŵp o gleifion sy’n anodd ei gyrraedd. Mae’n adnodd sydd wedi’i ddatblygu’n ofalus ac sy’n cynnwys ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, sy’n llenwi bwlch yn y gwasanaeth ac sy’n lleihau amrywiadau mewn gofal pontio. Mae’n amlwg yn cael derbyniad da gan bawb, ac mae nifer y gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi yn adlewyrchiad o ba mor eang y mae wedi lledaenu.”

Cyfranogwyr

16 mlwydd oed

'Ei fod yn gynhwysol.'
'Anffurfiol a hamddenol iawn.'
'Gallu dysgu mwy am fyw gyda Math 1 yn ogystal â chwrdd â phobl newydd.'
'Teimlo'n llai unig, gan wybod bod gan fwy o bobl ddiabetes Math 1.'
'Doedd dim beirniadaeth ac eto roedd yn dal i fod yn bersonol ac roedd modd uniaethu ag ef.'

17 mlwydd oed

'Cyngor ac awgrymiadau cyfeillgar, cynorthwyol, llawn gwybodaeth a defnyddiol iawn'
'Roedd yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol iawn na fyddwn wedi’i gwybod o'r blaen.'
'Pa mor gyfforddus roeddwn i’n gallu mynegi sut roeddwn i'n teimlo.'

Dros 18

'Fe wnes i fwynhau strwythur y sesiwn ond hefyd roedd yn ddigon hyblyg fel bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan a siarad am amrywiaeth o bynciau/profiadau.'
'Dysgu sgiliau newydd a phethau pwysig i'm helpu i reoli fy niabetes drwy gydol fy amser fel oedolyn.'

Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol / Hwyluswyr SEREN Connect

'Rwy'n hoff iawn o natur ymarferol y sesiynau, yn canolbwyntio ar yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol i bobl ifanc/oedolion ifanc. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau yn dda. Mae'n plesio gymaint bod sesiwn gyfan ar lesiant emosiynol, ac mae'r adnoddau'n wych.' – Nyrs Arbenigol Diabetes

'Yn syml, mae'r adnoddau’n wych! Mae ein tîm yn eu caru.' - Endocrinolegydd Pediatrig
'Mae'n ymdrin â phob pwnc defnyddiol sydd ei angen ar unrhyw berson ifanc ag anghenion diabetes Math 1 ac yn ymdrin â'r rhesymeg y tu ôl iddo. Mae’n eich annog i feddwl sut rydych chi'n esbonio pethau i bobl ifanc.' – Deietegydd Diabetes Pediatrig

'Roeddwn yn fy nagrau wrth fyfyrio ar y noson ar ôl cyrraedd adref ac yn teimlo'n hynod o freintiedig i fod wedi gallu cymryd rhan. Roedd yr adnodd canllawiau i gynnal y sesiwn yn wych, mor hawdd i'w ddilyn ac fe weithiodd y gweithgareddau mor dda gan ddechrau sgyrsiau.' – Nyrs Arbenigol Diabetes Oedolion
'Mae wir yn rhaglen wych!' - Seicolegydd Clinigol