Neidio i'r prif gynnwy

Am y rhaglen

Mae SEREN Connect yn rhaglen a ddatblygwyd i fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan bobl ifanc sy’n symud rhwng gwasanaethau diabetes pediatrig a gwasanaethau diabetes i oedolion. Gall y cyfnod hwn fod yn arbennig o heriol i unigolion â diabetes, gan eu bod yn aml yn cael anawsterau wrth drafod pynciau penodol yn ystod ymweliadau clinigol ac efallai nad oes ganddynt adnoddau a chymorth sy'n addas i'w hoedran.

Yn dilyn trafodaethau yn y gymuned diabetes sefydlwyd y fenter i greu SEREN Connect. Yn ystod y trafodaethau hynny daeth yn amlwg bod llawer o unigolion yn rhannu naratif tebyg sef eu bod yn ei chael hi'n anodd trafod materion pwysig yn ystod ymweliadau clinig. Fe wnaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn gwasanaethau diabetes canfod sawl her allweddol hefyd, gan gynnwys diffyg adnoddau ac amser i fynd i’r afael ag anghenion unigryw pobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio hwn. Yn ogystal â hyn roedd logisteg cydlynu cyfarfodydd â nifer o unigolion mewn un man yn hynod drafferthus ac o bosibl yn lletchwith i gleifion a darparwyr gofal iechyd.

Mewn ymateb i'r heriau hyn, achubodd Sara Crowley, Cydlynydd Gofal Pontio Diabetes ar gyfer Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan, y blaen wrth archwilio datrysiadau. Gan gydweithio â'r tîm y tu ôl i SEREN Diabetes ar ôl cael Diagnosis sef rhaglen addysg diabetes pediatrig yng Nghymru, ffurfiodd is-grŵp sy’n canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen wedi’i theilwra’n benodol i fynd i’r afael â’r datgysylltiad a brofir gan bobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio rhwng gofal diabetes pediatrig a gofal diabetes i oedolion yn y DU.

Yn 2019, lansiwyd SEREN Connect yn swyddogol. Nod y rhaglen arloesol hon yw darparu adnoddau, cymorth a man diogel sy’n addas o ran oedran i unigolion ifanc â diabetes i drafod eu pryderon a’u hanghenion wrth iddynt lywio’r cyfnod hollbwysig hwn yn eu taith gofal iechyd. Mae SEREN Connect yn mynd y tu hwnt i wasanaethau gofal iechyd traddodiadol trwy fynd i’r afael ag anghenion penodol oedolion ifanc â diabetes yn ystod y cyfnod pontio hwn. Maent yn grymuso unigolion i reoli eu cyflwr yn effeithiol wrth ymdrin ag agweddau amrywiol ar fywyd oedolyn ifanc, megis gyrru, yfed alcohol, cymdeithasu, datgelu eu cyflwr i ffrindiau newydd, llywio'r GIG, mynd ar ôl cyfleoedd cyflogaeth a theithio. Mae’r dull cynhwysfawr hwn yn ymgorffori arbenigedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n hwyluso’r rhaglen yn ogystal â dimensiwn amhrisiadwy cymorth cymheiriaid. Mae’n bosibl y bydd y cyfnod pontio hwn yn ynysu llawer o bobl ifanc â diabetes a nod SEREN Connect yw darparu cymuned gefnogol lle gall cyfranogwyr drafod eu pryderon a’u profiadau yn agored.

Mae creu SEREN Connect yn adlewyrchu ymdrech ragweithiol i wella’r profiad gofal pontio a hwyluso’r bwlch rhwng gwasanaethau diabetes pediatrig a gwasanaethau diabetes i oedolion sydd wedi’u teilwra’n benodol er budd cleifion ifanc yn y Deyrnas Unedig.