Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau

Adnoddau i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

•    Pecyn Cyflenwi SEREN Connect ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
•    Cwricwlwm a Chanllaw i Hwyluswyr SEREN Connect

Adnoddau i Gyfranogwyr

•    Llyfrynnau SEREN Connect
•    Llyfrynnau SEREN Connect: Hawdd eu Deall

Adnoddau Dwyieithog:
Mae ein holl adnoddau yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg, sy’n sicrhau cynwysoldeb a hygyrchedd. Mae hyn yn golygu y gall cyfranogwyr ymgysylltu â’r deunyddiau yn eu dewis iaith, gan alinio â Safonau’r Gymraeg a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Archebu Adnoddau SEREN Connect
Os hoffech gynnig rhaglen lawn SEREN Connect fel rhan o’ch addysg gwasanaeth diabetes i oedolion ifanc, gallwch brynu’r adnoddau canlynol oddi wrthym gan ddefnyddio’r ffurflen archebu SEREN Connect briodol. Lawrlwythwch y ffurflen sy'n cyfateb i'ch lleoliad:

Ar gyfer GIG Cymru: Rhestr Brisiau a Ffurflen Archebu GIG Cymru
Ar gyfer y tu allan i Gymru: Rhestr Brisiau a Ffurflen Archebu Allanol 

Dychwelwch y ffurflen wedi'i llenwi i SERENConnect@wales.nhs.uk 

Pynciau’r Llyfrynnau

Mae llyfrynnau digidol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys rhai Hawdd eu Deall ar y pynciau canlynol:

•    Alcohol a diabetes Math 1
•    Dysgu gyrru a gyrru'n saff gyda diabetes Math 1
•    Rheoli diabetes ar ôl ysgol, yn y brifysgol, ac yn y gwaith
•    Diabetes Math 1 a pherthnasoedd
•    Teithio, digwyddiadau, a gwyliau gyda diabetes Math 1
•    Deall diabetes Math 1 ac iechyd y llygaid (retinopathi)
•    Deall diabetes Math 1 ac iechyd y traed (niwropathi)
•    Deall diabetes Math 1 ac iechyd yr arennau (neffropathi)

Adborth: Yn y  22 mlynedd ers cael diagnosis, dydw i erioed wedi trafferthu codi'r pamffledi a'r llyfrau am ddiabetes oherwydd eu bod yn ddigon i roi’r felan i chi ond mae'r rhain yn chwa o awyr iach!' – Oedolyn Ifanc

Os ydych chi'n unigolyn sy'n byw gyda diabetes Math 1 neu'n cefnogi rhywun sy'n byw gyda diabetes Math 1, gallwch lawrlwytho copïau digidol o'n holl lyfrynnau SEREN Connect yma. 

Ni chodir tâl am ddefnyddio ein llyfrynnau digidol. Os hoffech gynnwys llyfrynnau digidol SEREN Connect fel rhan o’ch gwasanaeth addysg diabetes i oedolion ifanc, e-bostiwch SERENConnect@wales.nhs.uk i gofrestru eich gwasanaeth gyda ni a gofyn am ganiatâd.