Neidio i'r prif gynnwy

The Circuit

Cronfa ddata’r rhwydwaith diffibriliwr cenedlaethol  yw The Circuit sy'n rhoi trosolwg i system frys 999 Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae'r gronfa ddata yn nodi lle mae diffibrilwyr wedi'u lleoli ac a ydynt yn barod ar gyfer argyfwng. 
Mae cofrestru diffibriliwr ar The Circuit  AM DDIM. 

Sut mae The Circuit yn gweithio?

Pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, mae'r cloc yn dechrau ticio. Bydd pob munud heb adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibrilio yn lleihau ei siawns o oroesi. 

Nid yw llawer o ddiffibrilwyr cymunedol byth yn cael eu defnyddio oherwydd nad yw system frys 999 Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwybod ble maen nhw na sut i gael gafael arnynt. 

Pan fydd diffibriliwr wedi'i gofrestru ar The Circuit, mae'r lleoliad, p'un a yw ar gael i'w ddefnyddio a chod allwedd y cabinet yn cael eu cydamseru ar unwaith â system frys 999.  Mae hyn yn sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael. 

Pam ddylech chi gofrestru eich diffibriliwr ar The Circuit?

•    Gallai diffibriliwr sydd wedi’i gofrestru ar The Circuit olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
•    Os nad yw'ch diffibriliwr wedi'i gofrestru, ni fydd y derbyniwr galwadau 999 yn gwybod a oes diffibriliwr gerllaw ac ar gael ar gyfer argyfwng. 
•    Mae angen gwarcheidwad, fel chi, ar bob diffibriliwr, i ofalu amdano ac i wneud yn siŵr ei fod wedi'i gofrestru ac yn barod i achub bywyd.
•    Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng system frys 999 Gwasanaeth Ambiwlans Cymru  a The Circuit. Bob tro y bydd diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer galwad 999, bydd The Circuit yn eich diweddaru chi, y gwarcheidwad, yn awtomatig trwy e-bost a bydd yn gofyn i chi wirio'r diffibriliwr.  

Os yw'ch diffibriliwr wedi'i gofrestru gyda sefydliad neu elusen, rhaid iddo hefyd fod wedi'i gofrestru ar The Circuit.  Dyma'r unig ffordd y gall y derbyniwr galwadau 999 gyfeirio rhywun at ddiffibriliwr. 

I gofrestru eich diffibriliwr ewch i www.thecircuit.uk 

Beth i'w wneud â diffibriliwr mynediad cyhoeddus sydd wedi cael ei  gludo i leoliad argyfwng?

Ar ôl digwyddiad, dylid dychwelyd diffibriliwr cymunedol i'w gabinet neu i’w  safle cofrestredig, ond nid yw hyn bob amser yn bosibl. Os ydych chi'n cael eich hun yn gyfrifol am ddychwelyd diffibriliwr cymunedol, ond yn ansicr o ble y daeth, anfonwch neges e-bost at: SaveALifeCymru@wales.nhs.uk ,ac fe allent eich helpu i ddychwelyd y ddyfais i'w lleoliad cywir. Gyda'ch help chi, gallwn sicrhau bod pob diffibriliwr sy'n cael ei gludo i ddigwyddiad ar gael ac yn barod ar gyfer yr argyfwng nesaf.