Neidio i'r prif gynnwy

Atlas Amrywiadau Cardiofasgwlaidd GIG Cymru

Cyhoeddwyd yr Atlas Amrywio Cardiofasgwlaidd yn 2019 ac mae’n dilyn taith claf o’r gymuned i ofal sylfaenol, gofal eilaidd ac os oes angen canolfannau arbenigol ym maes gofal trydyddol.

Mae’n canolbwyntio ar dri phrif gyflwr cardiaidd:

  • Syndromau coronaidd acíwt
  • Methiant y galon acíwt
  • Ffibriliad atrïaidd

Y nod wrth gyhoeddi’r Atlas Amrywiadau Cardiofasgwlaidd oedd nodi amrywiadau diangen mewn elfennau allweddol o ofal cardiaidd ac ymchwilio i’r rhesymau dros amrywiadau diangen, boed yn orddefnydd, defnydd annigonol neu’r naill a’r llall.

Mae presenoldeb amrywiad diangen yn nodi:

  • Defnydd annigonol o ymyriadau gwerth uchel, yn cael ei gymhlethu’n aml gan anghydraddoldeb gan fod mwy o ddefnydd annigonol ymysg y grwpiau mwyaf difreintiedig o’r boblogaeth 
  • Gorddefnyddio ymyriadau gwerth is sy’n darparu triniaeth o werth cyfyngedig neu ddarparu triniaeth i bobl sydd ddim ond yn cael eu heffeithio’n ysgafn ac sydd ddim yn cael llawer o fudd.