Neidio i'r prif gynnwy

Podlediadau

Mae aelodau'r tîm wedi creu dwy gyfres o bodlediadau yn trafod y pynciau diweddaraf yn ymwneud â chanser yng Nghymru. 

Sgyrsiau Cymunedol – Cefnogi Gofal Iechyd yn ystod Covid-19 

Mae Dr Elise Lang a Dr Rachel Lee yn ymuno â Dr Fiona Rawlinson o Brifysgol Caerdydd i drafod a myfyrio ar y  newidiadau i ofal iechyd a gofal lliniarol o safbwynt cymunedol yn ystod y pandemig Covid-19.

Mae penodau'n cynnwys 'Gofal lliniarol yn y gymuned yn ystod Covid-19', 'Paratoi ar gyfer marwolaethau cymunedol drwy Covid – cael gafael ar feddyginiaeth' a 'Galar yn y gymuned yn ystod Covid-19’.

Gwrandewch yma.

Sgyrsiau Clinigwyr Bae Abertawe

Mae Dr Gemma Eccles a Hwylusydd Gofal Diwedd Oes Macmillan Dr Sowndarya Shivaraj yn cynnal cyfres o drafodaethau a myfyrdodau clinigol byr gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Bae Abertawe yn y gyfres hon o bodlediadau. 

Mae penodau'n cynnwys 'Gofal Diwedd Oes a Chynllunio Gofal Ymlaen Llaw', 'Archwilio Iechyd Ysgyfaint Cymru', 'Profedigaeth' ac 'Iechyd Meddwl a Covid-19’. 

Gwrandewch yma.