Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Cardiofasgwlaidd

Croeso Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Cardiofasgwlaidd

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar ryngwyneb gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol i ddarparu gwell gofal a chanlyniadau i bobl o bob oed sydd mewn perygl o, neu yr effeithir arnynt gan gyflyrau'r galon.

Mae ein gwaith yn cael ei yrru gan Grŵp Gweithredu Cyflyrau'r Galon gyda chynrychiolaeth glinigol a rheolaethol gan fyrddau iechyd, comisiynwyr, cymdeithasau proffesiynol a phartneriaid strategol allweddol o bob rhan o'r cymunedau cardiaidd yng Nghymru.

Ein prif flaenoriaethau, sy'n deillio o'r datganiad ansawdd cardiaidd, yw:

  • adeiladu ar ddatblygiad holl Lwybrau Clinigol Cymru i ddarparu gofal iechyd yn seiliedig ar werth;
  • datblygu a gweithredu rhaglen o Adolygiad Cymheiriaid Cardiaidd i Gymru;
  • i weithredu Cynllun Arestio Cardiaidd y Tu Allan i Ysbyty (OHCA) ar gyfer Cymru