Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol

 

Rhannu gwybodaeth i fenywod, eu teuluoedd a'r staff sy'n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Sefydlwyd Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru yn 2019, drwy uno'r ddwy rwydwaith ar wahân, Rhwydwaith Mamolaeth Cymru a Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru. Ffocws y Rhwydwaith yw dod â rhanddeiliaid ledled Cymru at ei gilydd i gefnogi ei gilydd i wella diogelwch ac ansawdd cyffredinol gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a phrofiadau teuluoedd yng Nghymru.

Wrth wraidd y rhwydwaith mae'r nod o wella canlyniadau a phrofiad i bob mam, baban a'u teuluoedd gan wybod bod rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol i leihau problemau iechyd.

Dyma rai o'r cyfrifoldebau allweddol:

  • Cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol cynaliadwy i sicrhau bod mamau a babanod Cymru yn cael gofal priodol gan staff medrus, hyfforddedig
  • Datblygu a gweithredu llwybrau cyson ar gyfer gofal mamolaeth a gofal newyddenedigol ledled Cymru
  • Sicrhau bod mewnbwn rhieni a theuluoedd yn cael ei werthfawrogi a'i ystyried ym mhob agwedd ar waith y Rhwydwaith
  • Sicrhau y darperir gwasanaeth o ansawdd uchel i famau a babanod yng Nghymru drwy oruchwylio archwiliad priodol o arferion clinigol a datblygu cyfleoedd dysgu ar y cyd a rhannu arferion da
Ysbyty Glan Clwyd

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Canolfan Gofal Dwys Newyddenedigol Is-ranbarthol (SuRNICC)

Ysbyty Maelor Wrecsam

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Gofal Arbennig i Fabanod

Ysbyty Gwynedd

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Gofal Arbennig Babanod

Ysbyty Bryn Beryl

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd

Ysbyty Dolgellau

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd

Nid oes gan Bowys unrhyw unedau newyddenedigol, ac mae pob un o'r chwe uned famolaeth yn Unedau Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd

Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu
Ysbyty Coffa Rhyfel Fictoria
Ysbyty Trefyclo
Ysbyty Llandrindod
Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes
Ysbyty Coffa Sir Drefaldwyn
Ysbyty Cyffredinol Glangwili

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr

Ysbyty Llwynhelyg

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd

Ysbyty Cyffredinol Bronglais

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
 

Ysbyty'r Tywysog Siarl

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Newyddenedigol Leol

Ysbyty Tywysoges Cymru

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Gofal Arbennig Babanod

Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd
 

Ysbyty Singleton

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Gofal Dwys Newyddenedigol

Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd
 

Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Gofal Dwys Newyddenedigol a Gofal Arbennig i Fabanod

Ysbyty Brenhinol Gwent

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd

Ysbyty Nevill Hall

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd

Ysbyty Ystrad Fawr

Uned Annibynnol Dan Arweiniad Bydwragedd
 

Ysbyty Athrofaol Cymru

Uned Dan Arweiniad Obsetetreg ac Uned Bydwreigiaeth Ochr yn Ochr
Uned Gofal Dwys Newyddenedigol