Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n dal i fod yma i chi

Rydych chi’n bwysig i ni ac mae ein gwasanaethau yn dal i fod ar agor i chi 

Rydyn ni’n dal i fod yma i chi - gall y ffordd mae  gwasanaethau’n cael eu cynnig amrywio - efallai y cewch chi ymweliad gartref, neu bydd rhywun yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy  alwad fideo.

Hoffai Rhwydwaith Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru ddiolch yn fawr i bawb sy’n parhau i gefnogi teuluoedd ledled Cymru.

Rydych chi’n bwysig i ni – diolch am y cymorth a’r gofal rydych chi’n ei gynnig i fenywod, dynion a’u teuluoedd pan fo angen hynny arnyn nhw fwy nag erioed.

Diolch am gydweithio ac am gefnogi eich gilydd.

Cofiwch mae’n hollol iawn i chi barhau i gysylltu â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu am gymorth ychwanegol neu cysylltwch â:

C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru
Rhadffon 0800 132 737 neu anfonwch neges destun 'help' at 81066 (y codir y gyfradd rhwydwaith safonol amdani) - unrhyw amser, ddydd a nos

Magu Plant. Rhowch Amser Iddo
Gwybodaeth ymarferol, arbenigol am ddim

Info Engine a Dewis
Dod o hyd i wasanaethau yn eich cymuned

#YouMatterToUs 
#TogetherWeCan
#WalesPNMHNetwork