Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n iawn i chi beidio â theimlo'n iawn

Rydych chi’n bwysig i ni - rydyn ni angen i chi wybod ei bod hi’n iawn i chi beidio â theimlo’n iawn!

Mae dod yn feichiog a chael babi yn ddigwyddiad sy’n newid bywyd yn aruthrol, a gall fod yn gyffrous ac yn eithaf brawychus.

Efallai y cewch chi bob math o deimladau - fe fyddwch chi’n hapus, yn drist, wedi blino neu ar ben eich digon. 

Does dim ffordd ‘gywir’ nac ‘anghywir’ o deimlo. 

Efallai eich bod yn teimlo’n bryderus ac wedi eich llethu.

Oherwydd pandemig y coronafeirws, efallai eich bod yn teimlo’n fwy gofidus a phryderus nag arfer. 

Cofiwch mae’n hollol iawn i chi barhau i gysylltu â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu am gymorth ychwanegol neu cysylltwch â:

C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru
Rhadffon 0800 132 737 neu anfonwch neges destun 'help' at 81066 (y codir y gyfradd rhwydwaith safonol amdani) - unrhyw amser, ddydd a nos

Magu Plant. Rhowch Amser Iddo
Gwybodaeth ymarferol, arbenigol am ddim

Info Engine a Dewis
Dod o hyd i wasanaethau yn eich cymuned

#YouMatterToUs 
#TogetherWeCan
#WalesPNMHNetwork