Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg iechyd amenedigol

Mae'r Rhwydwaith Iechyd Meddwl Amenedigol a'r Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod wedi dod at ei gilydd ar gyfer prosiect ‘Iechyd Amenedigol’ i GIG Cymru.

Ein nod yw datblygu adnoddau ar gyfer menywod, eu partneriaid a theuluoedd a phobl eraill sy'n darparu cymorth lle na chaiff iechyd corfforol a llesiant a iechyd meddwl eu hystyried ar wahân.

Yn hytrach, bydd ein prosiect yn cynnig cymorth drwy adnoddau ac ymgyrch ddilynol, a fydd yn rhoi’r gallu i fenywod a’u teuluoedd yng Nghymru fonitro a diogelu eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn ystod y cyfnod amenedigol.

Drwy ymagwedd cwrs bywyd, ein nod yw codi ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar reolaeth geidwadol, hunanofal, a gofal yn agosach i’r cartref, gan anelu i atal ac osgoi niwed lle bo’n bosib.

Mae’r prosiect yn dechrau drwy wrando ar safbwyntiau pobl Cymru. Drwy’r safbwyntiau a gesglir, bydd adnoddau ar sail tystiolaeth yn cael eu creu gan y sefydliad newid ymddygiadol rydyn ni wedi’i gomisiynu i gyflawni’r prosiect yma gyda ni: Social Change UK. 

Rydyn ni’n gofyn i bobl ledled Cymru rannu eu safbwyntiau, eu profiadau a’u syniadau am iechyd amenedigol gyda ni drwy ddau arolwg gwahanol sy’n cynnwys cwestiynau am iechyd meddwl a chorfforol, ac sy’n targedu menywod a allai feichiogi, sy’n feichiog ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod yn feichiog.

Dydyn ni ddim yn eithrio safbwyntiau neb – rydyn ni eisiau clywed gan y bobl sy’n profi’r beichiogrwydd a’r bobl sy’n eu cefnogi drwy’r cyfnod yma.

Drwy weithio mewn partneriaeth gobeithiwn y gallwn gryfhau’r effaith a’r gwerth ledled Cymru ac arwain at ganlyniadau gwell i deuluoedd drwy’r cyfnod amenedigol.

Isod mae dolenni i'r ddau arolwg.

Fy Mhrofiad Amenedigol
Ar gyfer menywod sydd wedi mynd neu a allai fynd trwy'r cyfnod amenedigol (beichiogrwydd, genedigaeth a hyd nes y bydd y babi'n 12 mis oed).
Profiad amenedigol i bartneriaid, aelodau o'r teulu neu ffrindiau
Ar gyfer pobl sy'n cefnogi menywod drwy'r cyfnod amenedigol.