Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylderau bwyta

Ein nod yw dod â'r rhai sydd â'r angerdd a'r sbardun i ddatblygu'r gofal a'r driniaeth orau bosibl i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anhwylderau bwyta at ei gilydd.

Mae'r rhain yn cynnwys y gweithwyr iechyd proffesiynol, dioddefwyr, gofalwyr a chynrychiolwyr y trydydd sector sydd â'r profiad a'r wybodaeth i arwain datblygiad gwasanaethau ar gyfer anhwylderau bwyta ledled Cymru.

Mae anhwylderau bwyta'n bodoli mewn sawl ffurf ac yn effeithio ar fywydau pobl mewn sawl Ffordd wahanol.

 

Ydych chi'n aelod o'r cyhoedd sy'n chwilio am gymorth neu gyngor?

Mae'r is-grŵp Anhwylderau Bwyta yn cynnwys clinigwyr, gweithwyr proffesiynol eraill a'r rhai sydd â phrofiadau personol o anhwylderau bwyta yn cydweithio ar draws pob rhan o Gymru i wella gwasanaethau i'r rhai sy'n profi pob math o anhwylderau bwyta.

Drwy'r grŵp hwn, nodir pryderon a rennir a meysydd o wasanaethau y gellir eu gwella gan fynd i'r afael â nhw ar y cyd a chyda gweledigaeth gyffredin. Mae enghreifftiau o arfer rhagorol yn cael eu rhannu ar draws gwasanaethau wrth iddynt ysbrydoli ac annog datblygiadau ei gilydd.

Yn 2018, cyhoeddwyd yr Adolygiad o Wasanaethau Anhwylderau Bwyta yng Nghymru, sy'n nodi amrywiaeth o argymhellion ar gyfer gwella gwasanaethau i bobl sydd ag anhwylderau bwyta.

Bydd yr Is-grŵp Anhwylderau Bwyta yn rhoi ei ffocws ar sut y caiff yr argymhellion hyn eu gweithredu er mwyn parhau â'r newidiadau y mae wedi'u harwain hyd yma.

Mae'r is-grŵp yn cydnabod yr anawsterau y mae llawer o bobl ifanc ag anhwylderau bwyta yn eu hwynebu. Mae'r heriau'n cynnwys trafod newidiadau yn eu bywydau ac o fewn eu perthynas bersonol a theuluol, tra hefyd yn newid y gwasanaethau a gânt yn 18 oed.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o anodd i'r rhai sy'n profi anhwylderau bwyta. Mae sicrhau parhad cymorth a thriniaeth sy'n briodol i'w hanghenion yn allweddol i adferiad a chynnal perthynas effeithiol â gwasanaethau.

Felly, mae'r is-grŵp wedi arwain y gwaith o sefydlu timau arbenigol ar gyfer cefnogi pobl ifanc ag anhwylderau bwyta sy'n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Mae'r arbenigwyr hyn yn gweithredu fel pontydd a thywyswyr drwy'r llwybrau i'r bobl ifanc hyn a'u teuluoedd i'w galluogi i barhau i symud ymlaen a ffynnu drwy'r newidiadau y maent yn eu profi.

Gall mesur canlyniadau triniaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd fod ar sawl ffurf a gall y ffordd yr eir ati benderfynu ble yn y gwasanaeth y canolbwyntir ar sylw i'w ddatblygu ymhellach. Felly, mae mesurau'r canlyniadau yn adlewyrchu athroniaeth a gwerthoedd y gwasanaeth.

Mae'r is-grŵp wedi datblygu protocol ar gyfer mesur canlyniadau yn y gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n canolbwyntio ar:

  1. Gwelliannau mewn iechyd a lleihau symptomau
  2. Gwelliannau mewn ansawdd bywyd bob dydd
  3. Cyflawni nodau sy'n cael eu penderfynu gan yr unigolyn ac sy'n ystyrlon iddo
  4. Gwelliannau o ran gweithrediad y teulu

Mae strwythur yr is-grŵp yn ein galluogi i gyflwyno'r protocol hwn ledled Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau dull cyson o astudio sut mae ein gwasanaethau'n perfformio ac archwilio sut y gellir rhannu cryfderau a'r hyn a ddysgir o wahanol wasanaethau.

Mae llawer o bobl sydd ag anhwylderau bwyta yn profi amrywiaeth o broblemau iechyd eraill sy'n chwarae rhan yn y ffordd y datblygodd yr anhwylder bwyta. Gall pobl sydd â chyflyrau cyd-forbid brofi dirywiad difrifol yn eu hiechyd o ganlyniad i'w anhwylder bwyta.

Un enghraifft benodol o hyn yw pobl sydd ag anhwylderau bwyta a diabetes. Mae pobl sydd â diabetes mewn perygl mawr o ddatblygu anhwylderau bwyta. Er mwyn i'r unigolion hyn a'u teuluoedd gael cefnogaeth dda gyda dull triniaeth glir a chyson, rhaid i wasanaethau anhwylderau bwyta a gwasanaethau diabetes gyfathrebu a chydweithio.

Mae'r is-grŵp yn helpu i gysylltu'r gwasanaethau hyn i ddatblygu partneriaethau proffesiynol. Mae'r partneriaethau hyn yn cyfuno eu harbenigedd i ddarparu'r gofal gorau i'r dioddefwyr ac edrych ar sut y gall eu gwasanaethau lleol gydweithio'n agosach ac yn fwy effeithiol.

Mae'r rhai sydd â phrofiad o anhwylderau bwyta a gofalu am rywun ag anhwylder bwyta yn allweddol i lywio datblygiad sgiliau a gwasanaethau proffesiynol ar gyfer anhwylderau bwyta.

Mae'r is-grŵp yn darparu lleoliad lle gall gweithwyr proffesiynol a'r rhai sydd â phrofiad personol gyfarfod, myfyrio, trafod a chynllunio.

Mae'r is-grŵp wedi datblygu cronfa ddata o bobl sydd â phrofiad o anhwylder bwyta a'r rhai sydd wedi gofalu am rywun sydd ag anhwylder bwyta, gyda’r naill a’r llall â diddordeb mewn bod yn rhan o wella gwasanaethau. Mae'r unigolion hyn yn adnodd pwerus ac yn storfa o brofiad i'w defnyddio a'u cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae'r is-grŵp yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau sydd wedi'u datblygu gan y dioddefwyr hynny a'u teuluoedd. Bydd yr adnoddau hyn o gymorth i ddeall, lleihau stigma a gwella ansawdd gwasanaethau i'r rhai sy'n cael triniaeth a chymorth ledled Cymru.