Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl

Mae Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cefnogi GIG Cymru i weithredu strategaeth genedlaethol a gwella canlyniadau iechyd meddwl.

Yn rhan o Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru, mae gwaith Rhwydwaith Iechyd Meddwl Cymru yn cael ei lywio a'i oruchwylio gan Fwrdd Rhwydwaith Iechyd Meddwl GIG Cymru.

Iechyd Meddwl Amenedigol

Ein nod yw gweithio gydag unigolion a'u teuluoedd, ymarferwyr, y trydydd sector a mudiadau gwirfoddol ledled Cymru, i sicrhau bod pawb sydd ei angen - yn cael y gofal cywir, ar yr adeg iawn a gan y bobl iawn.

Anhwylderau bwyta

Ein nod yw dod â'r rhai sydd â'r angerdd a'r sbardun i ddatblygu'r gofal a'r driniaeth orau bosibl i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anhwylderau bwyta at ei gilydd.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Ein nod yw gwella iechyd a lles emosiynol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan weithio gyda byrddau iechyd a'r holl bartneriaid eraill ledled Cymru.

Iechyd Meddwl Oedolion

Mae is-grŵp y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yn cynghori'n benodol ar ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru ac yn llywio gwaith y Rhwydwaith Iechyd Meddwl ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion.

Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio

Mae Rhaglen Gydweithredol Iechyd GIG Cymru yn cydgysylltu'r gwaith o atal hunanladdiad a hunan- niwed yng Nghymru a gweithredu strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed genedlaethol 2015-2020.

Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (2)

Gwella lles emosiynol a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru