Neidio i'r prif gynnwy

Therapiau Gwrth-ganser Systemig (SACT)

Nod cynnwys y dudalen hon yw darparu gwybodaeth ac arweiniad ar SACT i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae gwybodaeth i gleifion ar gael YMA.

Grwp Clinigol Therapiau Gwrth-ganser Systemig (SACT).

Arweinydd Clinigol SACT: Dr Catherine Bale (BIP Betsi Cadwaladr) Arweinydd Nyrsio SACT: Dr Rosie Roberts (Ymddiriedolaeth GIG Felindre) Arweinwyr Fferyllfeydd SACT: Diana Matthews (Ymddiriedolaeth GIG Felindre), Tracy Parry (BIP Betsi Cadwaladr) a Gail Povey (BIP Bae Abertawe).

Mae Grwp SACT Cymru Gyfan yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn a’i nod yw darparu arweiniad strategol ar gyfer blaenoriaethau SACT cenedlaethol, gan alluogi dull cydlynol ar gyfer datblygiadau megis e-ragnodi, setiau data SACT, cydlynu a monitro sganio’r gorwel ar gyfer cyffuriau canser a hygyrchedd ar a unwaith i Gymru. 

Am ragor o wybodaeth am Grwp SACT Cymru Gyfan, cysylltwch a WCN.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk

Grŵp Gwenwyndra Imiwnotherapi Cymru Gyfan

Cafodd Grŵp Gwenwyndra Imiwnotherapi Cymru Gyfan ei sefydlu gan Rwydwaith Canser Cymru fel is-grŵp o Grŵp Gwasanaeth Oncoleg Acíwt Cymru Gyfan (AOS) a Grŵp Therapi Systemig Gwrth-Ganser Cymru Gyfan (SACT). Ei nod yw cynnig arweiniad strategol ar gyfer blaenoriaethau gwenwyndra imiwnotherapi a fforwm ar gyfer cadarnhau holl ddatblygiadau Cymru gan alluogi dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau.

Fforwm Cenedlaethol Addysg Imiwno-Oncoleg (IO)

Mae'r fforwm cenedlaethol addysg imiwno-oncoleg yn grŵp amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Helen Winter, Ymgynghorydd o Ganolfan Haematoleg ac Oncoleg Bryste, a Ricky Frazer, Ymgynghorydd yng Nghanolfan Ganser Felindre Caerdydd. Mae wedi tyfu i fwy na 100 o gydweithwyr o bob rhan o'r DU sy'n dod at ei gilydd unwaith y mis i drafod pynciau sy'n gysylltiedig ag imiwnotherapi. Mae'r pynciau a drafodwyd eisioes yn cynnwys cydnabod myasthenia gravis, rheoli colitis ac adolygu canllawiau cenedlaethol steroidau. Mae'r Fforwm Addysg IO Cenedlaethol yn agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol waeth beth fo'u profiad; yr unig ddisgwyliad yw diddordeb mewn imiwnotherapi ac awydd i wella gofal cleifion. Cynhelir y cyfarfodydd yn rhithiol trwy Microsoft Teams ar ddydd Iau cyntaf pob mis yn ddi-fael am 1 o’r gloch ac yn para dim mwy nag awr. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Fforwm hon, cysylltwch â Ricky a'r tîm ar VCCNational.IOEducationForum@wales.nhs.uk

Mae Grŵp SACT Cymru Gyfan yn cydweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cenedlaethol. Mae grwpiau allweddol yn cynnwys:

 

Fforwm Nyrsys SACT

 

Sefydlwyd Fforwm Nyrsys SACT i roi cyfle i nyrsys o bob rhan o Gymru rannu arferion gorau drwy gydweithredu ac i lywio datblygiad arferion a safonau’r gweithlu ar y cyd. Cadeirydd y fforwm yw Dr Rosie Roberts (Ymddiriedolaeth GIG Felindre).

 

Genomeg

Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi sefydlu Grŵp Oncoleg Genomeg Cymru Gyfan (All Wales Genomics Oncology neu AWGOG) er mwyn hwyluso dull rhyngwladol amlddisgyblaeth a chydlynedig o ddatblygu a gweithredu gwasanaethau genomeg oncoleg benodol a ddarperir gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS).

 

I gael rhagor o wybodaeth am Genomeg ac AWGOG, CLICIWCH YMA.

 

AOS

Sefydlwyd Grŵp AOS Cymru Gyfan gan Rwydwaith Canser Cymru a’i nod yw darparu arweinydd strategol ar gyfer blaenoriaethau oncoleg acíwt cenedlaethol a fforwm ar gyfer cadarnhau datblygiadau Cymru Gyfan gan alluogi dull cydgysylltiedig. Er enghraifft wrth ddatblygu setiau data AOS, llwybrau, dogfennau ac offer cymorth er mwyn sicrhau gwasanaeth oncoleg acíwt safonol a chydlynol i Gymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am AOS a Grŵp AOS Cymru Gyfan, CLICIWCH YMA.

 

Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC)

Sefydliad GIG Cymru yw AWTTC  sy’n gweithio gyda chleifion, gofalwyr, sefydliadau cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y diwydiant fferyllol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill yn y DU i argymell a sicrhau defnydd priodol ac effeithiol o feddyginiaethau. Am ragor o wybodaeth am AWTTC, CLICIWCH YMA.

 

 

Cynhaliwyd Digwyddiad Addysg Rhithiol  SACT ac AOS Rhwydwaith Canser Cymru ar 11 a 12 Mai 2022.

 CLICIWCH YMA i weld yr agenda llawn.

 

Mae recordiadau o’r digwyddiad ar gael drwy’r dolenni isod:

Recordiad diwrnod 1

Recordiad diwrnod 2

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â WCN.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk

Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)

Mae NICE yn cynnig canllawiau a chyngor ar sail tystiolaeth i ymarferwyr ym maes iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth am ganllawiau NICE ar gyfer Canser CLICIWCH YMA

 

Ffurflenni Cydsyniad SACT Cenedlaethol

Mae Grŵp SACT Cymru Gyfan yn cymeradwyo'r Ffurflenni Cydsyniad SACT Cenedlaethol a gynhelir ar wefan CRUK.

Cynrychiolwyr Cymru ar gyfer y Grŵp Llywio Ffurflen Cydsyniad Cenedlaethol yw Dr Rosie Roberts (Ymddiriedolaeth GIG Felindre) a Simon Waters (Ymddiriedolaeth GIG Felindre).

 

Bwrdd cemotherapi'r DU

Mae gan Fwrdd Cemotherapi'r DU gynrychiolaeth gan y cyrff Cenedlaethol canlynol:

• Cymdeithas Meddygon Canser (ACP)

• Coleg Brenhinol Radiolegwyr (RCR)

• Coleg Brenhinol Meddygon (RCP)

• Coleg Brenhinol Patholegwyr (RCPath)

• Cymdeithas Nyrsio Oncoleg y DU (UKONS)

• Cymdeithas Fferylliaeth Oncoleg Prydain (BOPA)

 

Cynrychiolydd Cymru ar gyfer Bwrdd Cemotherapi'r DU yw Dr Catherine Bale (Betsi Cadwaladr UHB).

 

Mae'r llif gwaith presennol yn cynnwys:

• Ffurflenni caniatâd cemotherapi a dogfennau cysylltiedig

• Profion Hepatitis B

• Safonau Cemotherapi Intrathecal

• Protocolau SACT cenedlaethol

• Safonau ar gyfer Lleihau Risgiau sy'n gysylltiedig â Rhagnodi Electronig

• Steroid prophylaxis ar gyfer imiwnotherapi

• Consensws cenedlaethol ar gyfnodau dilysrwydd profion gwaed a gwerthoedd trothwy

• Elifiad

 

Adnoddau SACT

Mae Pasbort Awdurdodi a Phresgripsiynu SACT Cymru Gyfan wedi'i gymeradwyo gan Rwydwaith Canser Cymru. Mae'r cymwyseddau hyn wedi'u cynllunio i'w defnyddio i alluogi pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i ennill y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad priodol wrth asesu, monitro a rhagnodi SACT ym maes eu hymarfer.

Mae'r pasbort hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a bydd y fersiwn mwyaf diweddar yn cael ei lawr lwytho cyn gynted ag y bydd ar gael.

 

Pasbort Cymhwysedd Gweinyddu SACT UKONS

Pasbort Cymhwysedd Gweinyddu SACT UKONS yw’r safon y cytunwyd arni ar gyfer gweinyddu SACT.

 

Cardiau Rhybudd

Cafodd Cardiau Rhybudd Cymru Gyfan eu datblygu ar gyfer cleifion sy'n cael cemotherapi ac imiwnotherapi:

• Cerdyn Rhybudd Cemotherapi

• Cerdyn Rhybudd Imiwnotherapi

• Cerdyn Rhybudd DPD a Chemotherapi

Am fwy o wybodaeth ar sut i archebu'r cardiau yma, cysylltwch â WCN.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk

 

Fideos Addysg i Gleifion

Mae Canolfan Ganser Felindre wedi datblygu fideos addysg i gleifion a'u teuluoedd yn Gymraeg a Saesneg i roi gwybodaeth ynglŷn â'r pynciau allweddol canlynol:

 

Cemotherapi

 

Sepsis a Chanser

 

Yn dilyn adborth cadarnhaol gan gleifion ar y fideos hyn, mae aelodau Grŵp Nyrs SACT Cymru Gyfan bellach yn gweithio tuag at greu mwy o fideos addysg sy'n berthnasol i gleifion sy'n cael triniaeth SACT ar draws Cymru.

 

Is-grŵp Rheoli Meddyginiaethau

Sefydlwyd Is-grŵp Rheoli Meddyginiaethau SACT gan Grŵp SACT Cymru Gyfan, a elwid gynt yn is-grŵp e-ragnodi, a sefydlwyd yr Is-grŵp Rheoli Meddyginiaethau SACT.

Mae'r grŵp yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn a'i nod yw darparu llwyfan amlddisgyblaethol ar gyfer gwneud argymhellion consensws sy'n ymwneud â'r defnydd arfer gorau o SACT a meddyginiaethau sy'n cefnogi SACT, gan sicrhau tegwch mynediad ac optimeiddio defnydd. Mae hefyd yn cynnig arweiniad strategol ar gyfer blaenoriaethau rheoli meddyginiaethau'r Grŵp SACT Cymru Gyfan.

Mae hyn yn galluogi dull cydgysylltiedig ar gyfer ddatblygiadau megis e-ragnodi, set ddata SACT, edrych i’r dyfodol, llywodraethu a hygyrchedd, a blaenoriaethu dull Unwaith-am-Gymru, gan sicrhau cyflawnir safonau cenedlaethol y cytunwyd arnynt gan Grŵp SACT Cymru Gyfan.

 

Cyfeiriadur Fferylliaeth -Therapïau Systemig Gwrth-Ganser (SACT)

Dilynwch y ddolen isod i'r ffurflen Cyfeiriadur Fferylliaeth SACT. Dylai hyn gymryd llai na 5 munud i chi ei gwblhau. Drwy lenwi'r ffurflen hon byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfeiriadur Rhwydwaith Canser Cymru o staff Fferylliaeth SACT, a byddwn yn cysylltu â chi fel arfer ar e-bost (neu ar y ffôn o bryd i'w gilydd) ar bynciau a allai fod o ddiddordeb i chi. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gadw'n ddiogel gan Rwydwaith Canser Cymru ac ni fydd yn cael ei rannu na'i ddosbarthu. Bydd y wybodaeth sy'n cael ei chadw yn cael ei ddefnyddio gan staff Rhwydwaith Canser Cymru yn unig.

SACT Pharmacy Directory Form