Neidio i'r prif gynnwy

Mathau o Ganser yr Afu (Iau)

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar fathau o ganser yr afu (iau) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 
Mae gwybodaeth ar gyfer cleifion ar gael ar ein hwb cleifion. 

 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Gastroberfeddol Uwch, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk 

Datblygwyd y Llwybr Cenedlaethol Gorau ar gyfer Canser Hepatogellol ar y cyd â'r CSG GI i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Llwybr Canser Sengl (SCP) yng Nghymru.

Llwybr Cenedlaethol Gorau ar gyfer Canser Hepatocellular

Llwybrau Metastasau Afu

Carsinoma Hepatogellol

Trafodir pob claf sydd â charsinoma hepatogellol (HCC) mewn cyfarfod tîm amlddisgyblaethol penodedig. Cynhelir y cyfarfodydd bob dydd Mawrth am 8:30am. Mae angen defnyddio'r profforma HCC MDT isod i atgyfeirio unrhyw gleifion y mae angen eu trafod yn y cyfarfod hwn.

Mae'r holl driniaethau ar gyfer HCC ac eithrio trawsblaniad afu ar gael drwy'r Tîm Amlddisgyblaethol hwn. Mae hyn yn cynnwys llawdriniaeth, TACE (Emboleiddio Chemo Traws Rhydwelïol), abladiad, cemotherapi, SBRT (Radiotherapi Corff Stereotactig) a SIRT (Radiotherapi Mewnol Dethol).

Ffurflen atgyfeirio Tîm Amlddisgyblaethol HCC 

Metastasisau'r afu, colangiocarsinoma, canser coden y bustl

Mae'r holl gleifion sydd â metastasisau'r afu, colangiocarsinoma (CC) a chanser coden y bustl (CBM) yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Tîm Amlddisgyblaethol bob dydd Mawrth am 9am. Mae angen defnyddio'r profforma isod i atgyfeirio unrhyw gleifion y mae angen eu trafod yn y cyfarfod hwn 

Ffurflen atgyfeirio Tîm Amlddisgyblaethol TYA 

Uned Afu Caerdydd (CLU) yw'r gwasanaeth afu dynodedig sy'n darparu gofal i'r holl gleifion sydd angen triniaeth am broblemau llawfeddygol yn ymwneud â'r afu yn Ne Cymru. Mae'n gwasanaethu poblogaeth o 2.2 miliwn o bobl.

Llawfeddygaeth HPB

Mr Nagappan Kumar Llawfeddyg Ymgynghorydd Arweiniol HPB
Mr David O'Reilly Llawfeddyg Ymgynghorydd HPB
Miss Trish Duncan Llawfeddyg Ymgynghorydd HPB
Mrs Sian Thomas Nyrs Glinigol Arbenigol
Mrs Sian Weaver Ysgrifenyddes
Ms Gina Brajer Ysgrifenyddes

Mae'r uned afu yn gweithio'n agos gyda'r arbenigeddau canlynol sy'n mynychu cyfarfodydd rhanbarthol Timau Amlddisgyblaethol yr Afu.

Arbenigedd

Enw

Rôl

Hepatoleg

Dr Brijesh Srivastava

Hepatolegydd Ymgynghorol

Dr Lawrence Sunderraj

Ymgynghorydd mewn Gastroenteroleg a Hepatoleg

Yr Athro Andrew Godkin

Hepatolegydd Ymgynghorol

Radioleg Ymyriadol yr Afu

Dr Andrew Gordon

Radiolegydd Ymgynghorol

Dr Andrew Wood

Radiolegydd Ymgynghorol

Dr Rhodri Thomas

Radiolegydd Ymgynghorol

Radioleg yr Afu

Dr Craig Parry

Radiolegydd Ymgynghorol

Dr Rwth Ellis Owen

Radiolegydd Ymgynghorol

Dr Dipanjali Mondal

Radiolegydd Ymgynghorol

Dr Chris Chick

Radiolegydd Ymgynghorol (Ysbyty Brenhinol Gwent)

Uwchsain Endosgopig

Dr Ashley Roberts

Radiolegydd Ymgynghorol

Patholeg yr Afu

Dr Adam Christian

Radiolegydd Ymgynghorol

Oncoleg yr Afu (ar safle ysbyty Felindre)

Dr Seema Arif

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol

Dr Hilary Williams

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol

Dr Kein Yim

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol

Dr Sonali Dasgupta

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol

Yr Athro Richard Adams

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol

Dr Rob Jones

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol

Datblygwyd manyleb gwasanaeth model llawdriniaeth Hepato-Pancreatig-Bustlaidd gan grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys cynrychiolaeth glinigol o'r canolfannau llawfeddygol ledled Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau hyn.

Lawrlwythwch y manyleb gwasanaeth.

Nod y fanyleb gwasanaeth yw diffinio'r gofynion hanfodol a safon y gofal y mae'n ofynnol i wasanaethau eu bodloni er mwyn darparu gwasanaethau llawdriniaethau HPB i bobl sy'n byw yng Nghymru. 

Roedd y gwaith datblygu yn cynnwys cyfnod ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol. Cafodd y fanyleb ei chymeradwyo ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gweithredol Cydweithredol, ac fe’i cymeradwyodd i gael ei mabwysiadu'n ffurfiol gan fyrddau iechyd unigol Cymru.

Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid clinigol a rhanddeiliaid eraill am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r fanyleb gwasanaeth hon.

Mae elfen o'r gwasanaeth llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd yng Nghymru, sef llawdriniaethau canser hepatobustlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cael ei chomisiynu fel gwasanaeth arbenigol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).

Diweddarwyd y fanyleb ar gyfer llawdriniaethau canser hepatobustlaidd yn ddiweddar mewn proses ar y cyd ochr yn ochr â datblygu manyleb gwasanaeth model llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd ehangach.  

Mae manyleb llawdriniaethau canser hepatobustlaidd ar gael ar wefan WHSSC.