Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer cleifion canser

Sefydlwyd cynllun peilot Cydgysylltydd Llesiant Canser Macmillan mewn meddygfeydd yng Nghaerdydd i gynnig cymorth anghlinigol i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan ganser – cleifion, eu teuluoedd neu ofalwyr.

Sefydlwyd y cynllun peilot yn 2019, a hwn yw'r cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol cyntaf yng Nghymru ar gyfer canser yn benodol.

Gall y gwasanaeth gyfeirio cleifion tuag at gymorth gydag anghenion ymarferol a nodau personol, fel dychwelyd i'r gwaith, bod yn fwy egnïol neu fanteisio ar gymorth grwpiau cymunedol lleol.

Mae ar gael i bobl ac aelodau o'u teuluoedd a/neu eu gofalwyr sy'n byw gyda chanser a thu hwnt, mewn nifer o feddygfeydd yng Ngorllewin Caerdydd a Chlystyrau De-orllewin Caerdydd.

Gall Cydgysylltwyr Llesiant Macmillan helpu cleifion i wneud y canlynol:

  • Dod o hyd i grwpiau cymorth a chyrsiau hunanreoli
  • Dod o hyd i gyngor ar gyllid a budd-daliadau
  • Cynyddu hunanhyder a dysgu sgiliau newydd
  • Dod o hyd i gymorth ar-lein
  • Dod o hyd i ddulliau o wella ffitrwydd
  • Holi am apwyntiadau

Mae dwy swydd Cydgysylltydd Llesiant Canser Macmillan yn cefnogi'r gwasanaeth hwn, sydd ar gael tan 2022. Mae'r swyddi hyn wedi'u hariannu gan Gymorth Canser Macmillan mewn partneriaeth â Fframwaith Canser Gofal Sylfaenol Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Cyhoeddir gwerthusiad annibynnol o'r hyn a ddysgwyd o'r prosiect hwn yn 2022. Bydd y broses o ddysgu a rhannu gwybodaeth yn deillio o’r cynllun peilot hwn yn llywio datblygiad a buddsoddiad mewn gofal sylfaenol yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk