Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeillion Canser

Gall unrhyw un yn y maes gofal sylfaenol ymgymryd â rôl Cyfaill Canser, ond mae'r rôl wedi'i bwriadu ar gyfer staff anghlinigol neu gynorthwywyr gofal iechyd.

Mae Cyfaill Canser yn berson sy'n awyddus iawn i gefnogi'r claf canser drwy'r holl broses er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a'r cymorth perthnasol ar gael iddo neu iddi.

Mae rôl Cyfaill Canser yn cynnwys:

  • Cyfeirio cleifion a'u teuluoedd at wybodaeth ac adnoddau perthnasol
  • Cefnogi rôl yr unigolyn sy'n cynnal Adolygiadau Gofal Canser
  • Cael gafael ar wybodaeth ac adnoddau canser i'w defnyddio gan y feddygfa
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cleifion sy'n byw gyda chanser gydol eu taith ganser