Neidio i'r prif gynnwy

Acordion CCR MPCCF

04/02/21
Dechrau arni

Darllenwch 'Canllaw i Nyrsys Practis ar Adolygiadau Gofal Canser' i ddechrau arni. Fe'i bwriedir ar gyfer nyrsys practis, ond bydd yn ddefnyddiol i glinigwyr eraill hefyd.

Cafodd Eleri ddiagnosis o ganser y fron ac mae’n siarad yma am sut y  gallai adolygiad gofal canser fod wedi ei helpu.

Mae'r Nyrs Practis Juliet Norwood yn rhannu ei hawgrymiadau ar gyfer cynnal Adolygiadau Gofal Canser.

  1. Trafodwch â'r holl dîm yn y practis. Mae'n bwysig cynnwys pawb yn y broses.
  2. Mae cymorth eich tîm gweinyddol a staff eich derbynfa yn bwysig. Mae'n syniad da enwi un person penodol o'r adran weinyddol i weithio ochr yn ochr â chi.
  3. Mae mwy nag un ffordd o gynnal adolygiad gofal canser. Mae'n bwysig canfod dull gweithredu sy'n gweithio i chi, eich practis a'ch cleifion. Mae'n bosibl y bydd eich cleifion am gael yr adolygiad wyneb yn wyneb, neu o bell, yn enwedig yn ystod y pandemig Covid-19.
  4. Peidiwch â bod ofn newid ac addasu eich dull gweithredu wrth fynd yn eich blaen.
  5. Cofiwch y gall canser gael ei ystyried yn glefyd cronig mewn sawl ffordd. Defnyddiwch yr holl sgiliau sydd gennych eisoes wrth reoli clefydau cronig.
  6. Ar ddechrau'r sgwrs, gallwch egluro nad ydych yn arbenigwr ar ganser, ond eich bod chi yno i wrando, cefnogi a chyfeirio.
  7. I ddechrau, dylech gasglu rhestr o adnoddau lleol sydd ar gael i bobl. Adolygwch y rhestr yn rheolaidd.
  8. Gwnewch restr o'r codau darllen gwahanol y byddwch yn eu defnyddio.
  9. Mae'n bosibl y byddwch yn teimlo'n nerfus yn cynnal eich Adolygiad Gofal Canser cyntaf. Ewch amdani! Fel sy'n digwydd gyda phopeth, byddwch yn datblygu'ch dull gweithredu eich hun cyn bo hir. Cofiwch am sut yr aethoch chi ati i gynnal eich adolygiad diabetes cyntaf.
  10. Mae'n bosibl y byddwch am feddwl am adolygiad gofal canser blynyddol.
04/02/21
Offer

Dyma ddau offeryn gwahanol y gallwch eu defnyddio wrth gynnal Adolygiad Gofal Canser. 

1)

Mae'r Asesiad o Anghenion Holistaidd (HNA) a'r cynllun gofal cysylltiedig yn ffordd syml o ddarganfod beth sy'n wirioneddol bwysig i'r unigolyn â chanser.

Mae HNA yn sicrhau bod anghenion corfforol, ymarferol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol pobl yn cael eu diwallu mewn ffordd amserol a phriodol, a bod adnoddau'n cael eu darparu ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.

Holiadur syml yw HNA sy'n cael ei gwblhau gan unigolyn sy'n byw gyda chanser. Mae'n galluogi'r unigolyn i nodi'r materion sy’n bwysig iddo ar y pryd er mwyn llywio datblygiad cynllun gofal a chymorth gyda'i nyrs neu ei weithiwr allweddol. Gellir cwblhau'r holiadur ar bapur, neu’n electronig (eHNA).

Gwyliwch y fideo fer sy'n dangos nyrs practis yn cynnal Adolygiad Gofal Canser gyda chlaf gan ddefnyddio'r offeryn HNA .

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio'r offeryn HNA a chymorth i fynd i'r afael â phryderon a nodwyd yn y rhestr wirio o bryderon cleifion.

Lawrlwythwch yr HNA (rhestr wirio pryderon) a'r cynllun gofal cysylltiedig.

Mae Macmillan wedi datblygu templedi Adolygiadau Gofal Canser Safonedig Cenedlaethol ac maen nhw ar gael ar ffurf EMIS Web, TPP SystmOne ac INPS Vision. Nid yw'r cynlluniau gofal hyn yn cael eu harwain gan gleifion bob amser, ond bydd y wybodaeth yn cynnwys cod darllen. 

 

2)

Mae’r Templedi Safonedig Cenedlaethol ar gyfer Adolygiad Ofal Canser wedi cael ei ddatblygu gan Macmillan ac maent ar gael yn EMIS Web, TPP SystmOne ac INPS Vision. Nid yw'r cynlluniau gofal hyn bob amser yn cael eu harwain gan gleifion, ond bydd y wybodaeth yn “read-coded."

04/02/21
Adnoddau

Mae nifer o adnoddau ar gael i'ch helpu i gynnal Adolygiad Gofal Canser. 

Gallwch addasu'r llythyr templed hwn i'w anfon at eich cleifion er mwyn eu gwahodd i fynychu Adolygiad Gofal Canser.

Yn sgil datblygu triniaethau canser newydd mae'n anodd iawn i glinigwyr gofal sylfaenol wybod pa gamau i'w cymryd pan fydd cleifion yn nodi bod ganddynt symptomau newydd. Mae angen rhoi rhai o'r camau hyn ar waith ar unwaith.

Mae'n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â nhw. Mae Cymdeithas Nyrsio Macmillan ac Oncoleg y DU wedi datblygu'r Offeryn Asesu Risg Gwenwyndra Triniaeth Oncoleg / Haematoleg i'ch cynorthwyo.

I gael rhagor o syniadau, ewch i 10 Awgrym Da Gofal Sylfaenol Macmillan - Cynnal Adolygiad Gofal Canser effeithiol.

Fel gweithiwr gofal sylfaenol proffesiynol, fe allwch gofrestru ar gyfer tair gwefan ddefnyddiol gan Macmillan:

  • My Macmillan - sy'n darparu gwybodaeth a chymorth canser. Gall eich cleifion ymuno â chymuned ar-lein 
  • Be Macmillan - gallwch greu cyfrif i archebu llyfrynnau a nwyddau i chi a'ch cleifion. Mae'r taflenni ar gael am ddim, a gellir eu dosbarthu i gyfeiriad cartref eich claf os yw'n dymuno. 
  • LearnZone - ar gyfer adnoddau dysgu, cyrsiau ar-lein ac offer datblygiad proffesiynol di-dâl.
04/02/21
Gwybodaeth cyfeirio

Mae gwybodaeth am gymorth cenedlaethol i gleifion ar gael ar ein hwb cleifion.