Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Profiad Cleifion Rhwydwaith Canser Cymru

Yn Rhwydwaith Canser Cymru, rydym yn rhoi cleifion, eu teuluoedd, a’u gofalwyr wrth galon ein gwaith i wella gwasanaethau canser a gofal yng Nghymru. Mae profiad cleifion a gofalwyr yn rhan bwysig o’n cenhadaeth i wella gofal canser ac adferiad i gleifion ledled Cymru.

 

Nod yr arolwg hwn yw cael gwybod am brofiadau pobl a effeithiwyd gan ganser ac sy'n byw yng Nghymru. Erfyniwn arnoch i rannu eich meddyliau yn onest ac yn agored gyda ni. Bydd hyn yn ein helpu i gefnogi unrhyw newidiadau i wasanaethau canser yn y dyfodol, drwy wrando ar farn y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny.

Mae'r arolwg hwn wedi'i anelu at gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser o fewn y 2 flynedd diwethaf: efallai eich bod wedi gorffen eich triniaeth neu'n dal i gael rhyw fath o driniaeth.

 

Mae cyflawni’r arolwg hwn yn wirfoddol, a gallwch ddewis peidio ag ateb unrhyw rai o'r cwestiynau. Bydd eich atebion yn aros yn ddienw, a byddwn yn defnyddio, yn rheoli ac yn storio’r holl ddata yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018 sydd mewn grym ar hyn o bryd yn y DU. Ni fydd unrhyw ddata personol adnabyddadwy yn cael ei gasglu at ddibenion yr arolwg hwn.

 

Diolch am roi o'ch amser i gymryd rhan, gwerthfawrogwn eich barn a'ch sylwadau yn fawr.

 

Sylwch: Mae’r arolwg hwn yn ddienw, felly ni allwn  ymateb i unrhyw gwynion penodol - dylid eu cyfeirio’n uniongyrchol i’r Bwrdd Iechyd sy’n darparu eich gofal.

 

Hysbysiad Preifatrwydd
https://cydweithrediad.gig.cymru/use-of-site/hysbysiad-preifatrwydd/