Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil ac Arloesi

Mae ymchwil ac arloesi yn sbardunau pwerus i wella gwasanaethau, ac rydym yn ffodus bod gwaith parhaus yn cael ei wneud yma yng Nghymru i wella prosesau atal, diagnosis, triniaeth a phrofiadau pobl sydd mewn perygl o gael canser neu ddatblygu'r cyflwr.

Rydym yn awyddus i elwa ar y maes cryfder hwn er mwyn sicrhau newid gwirioneddol i'n ffordd o weithio:

  • hwyluso cydweithio rhwng sectorau, er mwyn cyrraedd nodau cyffredin
  • elwa i'r eithaf ar drosi ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf yn arfer clinigol o ansawdd uchel, a 
  • gwella canlyniadau ein rhaglenni gwella gwasanaethau drwy ehangu a defnyddio'r sail dystiolaeth, methodolegau ac arbenigedd dull ymchwil yn effeithiol

Roedd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn ategu'r angen am ddull strategol o ymchwilio i ganser. Prif ganlyniad cychwynnol y Rhaglen Ymchwil a Datblygu yw gweithio gyda phartneriaid i hwyluso Strategaeth Ymchwil Canser genedlaethol gyntaf Cymru (CReSt).

Mae'r strategaeth yn y cam drafftio datblygedig ar hyn o bryd, a bydd gweithredu'r strategaeth derfynol yn cyfarwyddo'r rhaglen Ymchwil ac Arloesi dros y blynyddoedd nesaf.

Yn sail i hyn, rydym yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglenni cydweithredol ar draws proffesiynau a sectorau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chleifion a'r cyhoedd yn ehangach, Cynghrair Canser Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac eraill, ac mae enghreifftiau ohonynt yn cynnwys: 

  • darparu un drws ffrynt i ddatblygu a chefnogi partneriaethau drwy sefydlu Fforwm Diwydiant Canser Cymru
  • datblygu cyfleoedd ar gyfer proffesiynau heb fawr o waith ymchwil nac arloesi yn draddodiadol, er mwyn manteisio ar sgiliau 

Hoffem i bawb gael cyfle i fod yn rhan o'r maes Ymchwil ac Arloesi, gan droi syniadau'n dystiolaeth o ansawdd uchel a newidiadau cadarnhaol. 

I ddysgu mwy neu gymryd rhan, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk