Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Clinigau Diagnosis Cyflym

Sefydlwyd rhaglen y Clinigau Diagnosis Cyflym (RDC) yn 2021 i gefnogi gweithrediad a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaeth RDC ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru.

Mae’r gwasanaethau RDC yng Nghymru yn seiledig ar fodel a ddatblygwyd yn Nenmarc ac a gafodd ei dreialu o 2017-9 gan bartneriaeth rhwng Rhwydwaith Canser Cymru, Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Chwm Tâf Morgannwg; dangosodd y gwasanaethau peilot for yr RDC yn cynnig ateb cost-effeithiol i’r uchelgais o wella canlyniadau cleifion. Mae gwasanaethau RDC Cymru yn darparu llwybr amserol a chyfannol at ddiagnosis ar gyfer cleifion â symptomau annelwig nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriad lle mae amheuaeth o ganser penodol, oherwydd absenoldeb symptomau “baner goch” clir. Dangosodd y gwasanaethau peilot hefyd fod yr RDC yn effeithiol wrth wneud diagnosis cyflym o ystod o gyflyrau iechyd difrifol eraill yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl prydlon i’r rhai heb unrhyw ddiagnosis arwyddocaol.  Maent felly’n cyfrannu at weledigaeth “Cymru Iachach”.

Yn fyr, pwrpas yr RDC yw:

  • Cefnogi diagnosis cynharach i gleifion â symptomau annelwig, amhenodol a allai fod yn ganser
  • Lleihau nifer y canserau sy’n cael diagnosis yn yr adran achosion brys
  • Gwella canlyniadau cyffredinol cleifion trwy ganfod canser yn gynt
  • Gwella profiad cleifion a’u meddygon teulu
  • Diagnosio a rheoli clefydau difrifol eraill nad ydynt yn ganser neu’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu salwch difrifol.

Cyn sefydlu’r gwasanaethau RDC yng Nghymru, byddai gan y cleifion hyn o bosibl brofiad gwaeth, diagnosis diweddarach a chanlyniadau gwaeth o’u cymharu â chleifion eraill a gyfeiriwyd ar lwybrau tiwmor-benodol traddodiadol. Mae’r model RDC yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn yng Nghymru drwy gynnig Llwybr Symptomau Annelwig i gleifion â symptomau amhenodol sy’n peri pryder a allai awgrymu bod canser.

Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau peilot, cydweithiodd Rhwydwaith Canser Cymru â chydweithwyr a sefydliadau o bob rhan o GIG Cymru i sefydlu rhaglen genedlaethol o wasanaethau RDC i Gymru gyfan. Bellach mae gwasanaeth RDC wedi ei sefydlu mewn 5 o’r 7 Bwrdd Iechyd Cymreig, gyda RDC Caerdydd a’r Fro yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd (gyda’r nod o fynd yn fyw yn fuan iawn) a chleifion Powys yn cael mynediad i wasanaethau RDC mewn Byrddau Iechyd cyfagos.

Mae Llwybr Symptomau Annelwig yr RDC wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol ac mae’n eistedd ochr yn ochr â Llwybrau Optimaidd Cenedlaethol eraill y cytunwyd arnynt o dan y Rhaglen Llwybrau Canser Amheuir (SCP)

 

RDC Implementation Specification English

Diffiniodd y Rhaglen RDC set ddata i’w defnyddio gan y Byrddau Iechyd sy’n cynnig gwasanaeth RDC ar hyn o bryd. Mae gwaith pellach ar y gweill i ddatblygu Dangosfwrdd RDC Cenedlaethol a fydd yn casglu a chyflwyno’r set ddata hon yn awtomatig. Bydd hyn yn galluogi’r Rhwydwaith a’r Byrddau Iechyd i fonitro gwasanaethau RDC ledled Cymru, ysgogi arloesedd a gwella llwybr gofal y cleifion hynny sy’n cyflwyno symptomau annelwig.

Gwerthusiad allanol

Cipolwg ar ganfyddiadau gwerthusiad

Gwerthuso'r Rhaglen Clinigau Diagnosis Cyflym

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, cysylltwch â WCN.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk