Neidio i'r prif gynnwy

Menter Canser y Coluddyn

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd diagnosis canser mwyaf cyffredin yn y DU a'r ail achos mwyaf o farwolaethau canser.

Rhaglen gydweithredol dwy flynedd rhwng Bowel Cancer UK a Rhwydwaith Canser Cymru, dan arweiniad yr Athro Jared Torkington, yw Menter Canser y Coluddyn.

Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau a phrofiad cleifion i bobl sy'n byw gyda chanser y colon a'r rhefr yma yng Nghymru.

Mae blaenoriaethau'r rhaglen wedi'u hailwerthuso er mwyn lliniaru effaith Covid-19 ar ganlyniadau cleifion.

Prif ffrydiau gwaith Menter Canser y Coluddyn ym mis Tachwedd 2020 oedd: 

  • Adolygiad Cymheiriaid 2020/21
  • Gwerthuso gwasanaeth FIT-10
  • Digwyddiadau gwrando ar gleifion – 'Gwrando gyda'n gilydd'
  • Dadwneud Stoma – Prosiect Uwchgynhadledd
  • Ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd

Os hoffech ragor o wybodaeth am un o'n ffrydiau gwaith, cysylltwch â ni drwy e-bostio WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk