Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Deallusrwydd

Mae Tîm Arbenigol Gwybodaeth Canser WCN yn cefnogi cyfraniad GIG Cymru mewn archwiliadau canser cenedlaethol, ac yn rhoi cymorth i ddefnyddwyr gweithredol byrddau iechyd o system gwybodaeth glinigol canser Cymru gyfan (CaNISC) wrth gasglu, dilysu a dadansoddi'r data ar gyfer pob claf sydd newydd gael diagnosis o ganser.

Mae gan ’Cancer Information and Intelligence: A Digital Health Strategy for Cancer in Wales 2017-20’ y blaenoriaethau canlynol:

  • Atebion Gwybodeg Canser 
  • Atebion Data Malaen Haematolegol GIG Cymru
  • Safonau Canser Cenedlaethol Cymru (Setiau Data Canser Cenedlaethol)
  • Archwiliadau Cenedlaethol
  • Atebion E-bresgripsiwn Oncoleg Cenedlaethol
  • Mesurau Adrodd a Pherfformiad Cenedlaethol

Mae'r blaenoriaethau hyn yn cael eu datblygu drwy ffrydiau gwaith a phrosiectau mewn cydweithrediad rhwng Rhwydwaith Canser Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), Llywodraeth Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU) a Janssen Cilag. 

Er mwyn sicrhau dull cydlynol, mae Bwrdd Rhaglen Gwybodeg Canser, a hwylusir gan NWIS, yn goruchwylio popeth. 
 
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r ffrydiau gwaith, cysylltwch â ni trwy e-bostio WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk