Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint

Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint. Cwm Taf Morgannwg Bwrdd lechyd Prifysgol.

 

Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau canser yng Nghymru, ac mae’n achosi  mwy o farwolaethau na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd.

Mae tystiolaeth o hap-dreialon rheoledig yn dangos y gall sgrinio unigolion sydd â risg uchel gyda  CT dos isel wella canlyniadau. Mae Treial Sgrinio Cenedlaethol yr Ysgyfaint a NELSON yn ddau hap-dreial rheoledig mawr sy’n dangos gostyngiad cymharol o 20% neu fwy mewn marwolaethau o ganser yr ysgyfaint gyda sgrinio CT dos isel mewn unigolion risg uchel. Gellir darparu sgrinio CT dos isel ar gyfer canser yr ysgyfaint o dan faner “Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint”.

Ym mis Chwefror 2019, cymeradwyodd y Grŵp Gweithredu Canser gyllid i gynnal adolygiad i archwilio’r potensial ar gyfer Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint (LHCs) yng Nghymru. Ym mis Medi 2019, penododd Rhwydwaith Canser Cymru Arweinydd Clinigol (Dr Sinan Eccles, Meddyg Ymgynghorol yr Ysgyfaint), Rheolwr Prosiect (Claire Wright) ac Uwch Swyddog Cymorth Prosiect (Roya Yadollahi) i arwain yr adolygiad hwn. Cwblhawyd yr adroddiad yn ystod tymor yr hydref 2020 a gwnaeth argymhellion ar gyfer y camau nesaf i Gymru, gan gynnwys:

  • Cynllunio gwasanaeth peilot ar raddfa fach yng Nghymru
  • Dysgu parhaus gan brosiectau Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint mewn rhannau eraill o'r DU, ynghyd ag asesu effaith y pandemig COVID-19 ar weithgarwch Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint, ac ar wasanaethau canser yr ysgyfaint yng Nghymru
  • Monitro adolygiad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) gyda'r bwriad o weithredu rhaglen LHC genedlaethol os gwneir argymhelliad cadarnhaol
  • Sefydlu prosiect i asesu, dilysu a gwella’r data am statws ysmygu a gedwir gan  feddygfeydd teuluol, er mwyn llywio'r strategaeth orau o binbwyntio pobl sy'n gymwys i gael eu sgrinio am ganser yr ysgyfaint.

Mae’r adroddiad llawn i'w weld yma.

Mae’r gwaith cynllunio i gyflwyno’r peilot wedi symud ymlaen ers hynny mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tâf Morgannwg, lle bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Fel trosolwg, mae’r peilot yn cynnig apwyntiadau gwirio iechyd yr ysgyfaint dros y ffôn i drigolion cymwys, 60-74 oed sydd wedi ysmygu rywbryd, o bractisau meddygon teulu dethol yng Ngogledd y Rhondda. Yn ystod yr apwyntiad hwn gofynnir cyfres o gwestiynau, a chynigir sgan CT sgrinio dos isel o'r ysgyfaint i’r rheinyy nodir eu bod mewn perygl uwch o ddatblygu canser yr ysgyfaint. Cynigir cymorth rhoi'r gorau i ysmygu i bob un sy’n dal i ysmygu.

 

Mae'r peilot ar y gweill, gyda'r gwahoddiadau cyntaf yn cael eu hanfon yn gynnar ym mis Awst 2023 a sganiau CT dos isel yn cael eu cynnal o ddiwedd mis Medi 2023. Nod y peilot yw cynnig sganiau CT dos isel i tua 500 o bobl a bwriedir defnyddio'r hyn a ddysgir o hyn i lywio unrhyw ehangu pellach o’r gwasanaeth yn y dyfodol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y peilot ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tâf Morgannwg: Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (nhs.wales)

 
Ym Mis Medi 2022 cymeradwyodd Pwyllgor (ailsefydledig) Sgrinio Cenedlaethol y DU  (NSC) yr argymhelliad i sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu.  Ar ben hynny argymhellwyd bod gwledydd y DU yn symud tuag at weithredu hyn gyda darpariaeth cymorth i roi’r gorau i ysmygu wedi ei integreiddio i’r gwasanaeth.  Lung cancer - UK National Screening Committee (UK NSC) - GOV.UK (view-health-screening-recommendations.service.gov.uk). Mae tîm Gwirio Iechyd yr Ysgyfaint yn gweithio gyda'r grwpiau perthnasol i symud ymlaen â hyn.  Os hoffech gael ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â’r tîm:

PHW.LungHealthCheck@wales.nhs.uk