Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad gan Gymheiriaid

Proses gwella ansawdd gydweithredol, sy'n caniatáu gwerthusiad o waith gwyddonol, academaidd neu broffesiynol gan eraill sy'n gweithio yn yr un maes yw adolygiad gan gymheiriaid.

Mae'n fath o hunanreoleiddio gan aelodau cymwysedig o broffesiwn, ac yn annog cymheiriaid i rannu gwybodaeth, dysgu beth yw eu cryfderau neu wendidau a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gwelliannau i ofal cleifion.

Defnyddir dulliau adolygu gan gymheiriaid i gynnal safonau ansawdd, gwella perfformiad a darparu hygrededd.

Yn 2011, fe wnaeth Llywodraeth Cymru argymell bod y broses adolygu gan gymheiriaid ar gyfer gwasanaethau canser yn cael ei harwain gan Arolygiaeth Iechyd Cymru (AGIC), gan weithio mewn partneriaeth â'r Rhwydweithiau Canser. Lansiwyd adolygiad gan gymheiriaid yng Nghymru yn 2012.

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Adolygiad gan Gymheiriaid GIG Cymru gan roi i Raglen Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru y dasg o oruchwylio rhaglen Cymru gyfan ar gyfer adolygu gan gymheiriaid.

I ddysgu mwy am hyn neu i gymryd rhan, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk