Mae Rhwydwaith Gofal Critigol Cymru, sy'n rhan o Raglen Gydweithredol Iechyd GIG Cymru, yn canolbwyntio ar wella ansawdd gofal i gleifion difrifol wael ledled Cymru.
Gan gwmpasu 14 o unedau Gofal Critigol ar draws chwe Bwrdd Iechyd, rydym yn mabwysiadu dull system gyfan o sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu darparu ar draws cymuned iechyd Cymru ac yn darparu arbenigedd, cyngor a hwyluso gwerthfawr.
Yn y gogledd, rydym hefyd yn darparu llywodraethu a chydweithio ar gyfer cleifion trawma yn y rhanbarth ac yn cysylltu ag Ysbyty Athrofaol Royal Stoke fel ei brif ganolfan trawma, gan weithio'n agos gyda Rhwydwaith Trawma Gogledd Orllewin Canolbarth Lloegr.
Rydym wedi rhoi strwythur sefydliadol clir iawn sydd wedi’i ddylunio’n effeithiol ar waith, sy’n sicrhau llinellau atebolrwydd clir, cyfathrebu dwy ffordd effeithiol a ffrydiau gwaith wedi’u diffinio’n glir.
Mae’r strwythur hwn yn caniatáu ar gyfer integreiddio staff rheoli a chlinigol sydd, gyda’i gilydd, wedi mabwysiadu dull cyffredin o gynllunio a darparu ar gyfer anghenion y claf difrifol wael, ac mae’n galluogi cyfnewid syniadau a rhannu arfer gorau yn rhwydd ac yn effeithiol ar draws pob uned o fewn y Rhwydwaith er budd cleifion, gofalwyr a staff.
Gallwch gysylltu â thîm Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru dros y ffôn ar 03000 855108 neu drwy e-bost yn criticalcare.traumanetwork@wales.nhs.uk
Gallet hefyd dilyn ni ar Twitter @WCCTN
Detholiad o gyrsiau a drefnir gan Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru