Neidio i'r prif gynnwy

Safonau a pholisiau

Y Polisi ar gyfer Rheoli Profion Pwynt Gofal. Beth, Pryd a Sut? a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2017.

Mae'r polisi hwn yn diweddaru canllawiau cynharach ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ar sut i weithredu a rheoli gwasanaeth Profion Pwynt Gofal diogel (WSAC 2008) sy'n cynnwys gwybodaeth wedi'i diweddaru gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (2013), Safonau Iechyd a Gofal (2015) ac mae'n adlewyrchu datblygiadau mewn technoleg a blaenoriaethau polisi.

Mae cwmpas y canllawiau hyn yn cynnwys defnydd Profion Pwynt Gofal yn y lleoliad gofal acíwt, yn yr ysbyty, y clinig, mewn practis cyffredinol, cartrefi gofal, fferyllfeydd stryd fawr, lleoliadau sgrinio, wrth gludo cleifion, neu ofal yn y cartref a ddarperir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae safon Safonau Iechyd a Gofal Cymru (2015) yn nodi bod gan sefydliadau gofal iechyd rwymedigaeth i sicrhau bod y gofal a ddarperir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ddiogel ac yn glinigol effeithiol a'i fod yn cael ei ategu gan arferion gofal iechyd darbodus. Dylai gofal, triniaeth a gwneud penderfyniadau adlewyrchu arferion gorau yn seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a'r cymorth cywir i ddiwallu eu hanghenion unigol. 

Mae Safon 3.5, 'Cadw Cofnodion', yn arbennig o berthnasol i'r Profion Pwynt Gofal, gan fod cadw cofnodion gwael yn arwain at hawliadau diangen yn erbyn cyrff y GIG, gan wneud hawliadau'n anodd eu hamddiffyn.

Mae ISO 15189:2022 Labordai Meddygol – Gofynion ar gyfer Ansawdd a Chymhwysedd yn ddiweddariad i safon ISO 15189:2012 y mae labordai clinigol achrededig yn ei bodloni. Mae’r safon yn rhoi pwyslais o’r newydd ar risg ac mae’n cynnwys Profi lle Rhoddir Gofal, gan amlinellu cyfrifoldebau’r labordy i’r sefydliad gofal iechyd o safbwynt gweithgareddau POCT a rhoi sylw i drefniadau llywodraethu. Mae ISO 15189:2022 yn disodli ISO 22870:2016. Bydd angen gwneud dadansoddiad o fylchau a chynllun gweithredu er mwyn achredu gwasanaethau POCT yn unol â’r safon newydd hon ar draws Cymru.

Mae ISO 15197:2013 systemau prawf diagnostig in vitro — gofynion ar gyfer systemau monitro glwcos gwaed ar gyfer hunan-brofi wrth reoli diabetes mellitus ((ISO 15197:2013 In vitro diagnostic test systems — Requirements for blood-glucose monitoring systems for self-testing in managing diabetes mellitus) ac ISO 17593:2007 Profion labordy clinigol a dyfeisiau meddygol in vitro —gofynion ar gyfer systemau monitro in vitro at ddibenion hunan-brofi therapi gwrth-geulo trwy'r geg (ISO 17593:2007 Clinical laboratory testing and in vitro medical devices — Requirements for in vitro monitoring systems for self-testing of oral anticoagulant therapy) yn darparu safonau Profion Pwynt Gofal ym maes hunan-brofi cleifion, allan o gwmpas ISO 15197, yn benodol ar gyfer dyfeisiau glwcos gwaed a monitro therapi gwrth-geulo trwy'r geg yn y drefn honno.

Dylai darparwyr gwasanaethau Profion Pwynt Gofal fod yn ymwybodol o ganllawiau Rheoli a Defnyddio Dyfeisiau Prawf Pwynt Gofal Diagnostic in vitro (Management and Use of IVD Point of Care Test Devices) a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn 2013. Mae'r ddogfen hon yn darparu rhestr wirio o ystyriaethau ar gyfer sefydliadau gofal iechyd sy'n bwriadu gweithredu gwasanaeth Profion Pwynt Gofal. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) hefyd yn ymwneud â chyhoeddi safonau perfformiad clinigol a dadansoddol ar gyfer dyfeisiau Profion Pwynt Gofal mewn lleoliadau penodol.

Profi lle Rhoddir Gofal: Mae’r Canllawiau Strategol Cenedlaethol ar gyfer Profi lle Rhoddir Gofal (2023) a luniwyd gan IBMS, RCPath ac ACB yn darparu argymhellion pellach, ystyriaethau a fframweithiau ar gyfer datblygu gwasanaeth POCT modern, gan bwysleisio rôl hanfodol gweithwyr labordai proffesiynol.