Neidio i'r prif gynnwy

Tips ymarferol a chyngor arbenigol, am ddim, ar gyfer eich holl heriau magu plant

0 i 4 oed
Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol rhad ac am ddim ar holl heriau magu plant hyd at 4 oed.
4 i 7 oed
Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol rhad ac am ddim ar holl heriau magu plant hyd at 7 oed.
8 i 12 oed
Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol rhad ac am ddim ar holl heriau magu plant rhwng 8 a 12 oed.
13+ oed
Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol rhad ac am ddim ar holl heriau magu plant yn eu harddegau.
Eich cefnogi chi
Cyngor i'ch helpu gyda'r heriau dyddiol o fod yn rhiant.

Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.

Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol.

Cefnogi rhieni - Cyngor i helpu gyda’r heriau dyddiol o fod yn rhiant

Mwy am y gyfraith - A yw’r gyfraith cosbi corfforol yn berthnasol i bawb, a beth y dylid ei wneud os byddwch yn poeni am blentyn

Adnoddau defnyddiol - Adnoddau a gwybodaeth i rhieni a gweithwyr proffesiynol

Llinellau Cymorth

Family lives

Mae Family Lives yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim i deuluoedd yng Nghymru ar bob agwedd o fagu plant a bywyd teuluol. I siarad â rhywun ffoniwch 0808 800 2222  neu ewch i Parenting and Family Support - Family Lives (Parentline Plus) i gael mynediad i'r sgwrs fyw.

Parent Talk Cymru (Action for Children/Gweithredu dros Blant)

Yn cynnig sgwrs cyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr rhianta cymwys yn Saesneg neu Gymraeg. Ewch i Parent Talk - Cymru - Support for Parents from Action For Children/Gweithredu dros Blant.