Sefydlwyd y Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol i sbarduno ymdrechion i wella gofal a gwasanaethau ar gyfer pobl gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru.
Rydym yn dwyn ynghyd byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y trydydd sector, gofal sylfaenol, llywodraeth a rheolwyr i gadw llygad ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol a chefnogi byrddau iechyd a phartneriaid i gyflawni eu cynlluniau lleol.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Gweithredu Strôc, gan ddarparu cyllid ar y cyd i ehangu gwasanaethau ac arbenigedd niwro-adsefydlu ledled Cymru.
Achosir cyflyrau niwrolegol gan niwed i’r system nerfol yn sgil salwch neu anaf. Amcangyfrifir bod 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol yng Nghymru, ac mae tua 2,500 o achosion yn cael diagnosis newydd bob blwyddyn.
Mae mwy na 250 o gyflyrau niwrolegol a gydnabyddir. Mae’r cyflyrau mwyaf cyffredin yn cynnwys sglerosis ymledol, clefyd niwronau motor, epilepsi, clefyd Parkinson, nychdod cyhyrol a niwed i’r ymennydd.