Sefydlwyd y Grŵp Gweithredu Clefydau’r Afu i gefnogi’r camau ymlaen a gymerir i fodloni’r blaenoriaethau a nodir yn ‘Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu’.
Mae ein haelodau yn cynnwys clinigwyr o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru, cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Afu Prydain a’r Sefydliad Clefyd Afu Plant ac, yn hollbwysig, cynrychiolydd claf.
Mae’r cyfraddau marwolaethau ar gyfer clefyd yr afu yn y DU wedi cynyddu 400 y cant ers 1970 ac mae clefyd yr afu yn achos marwolaeth cyffredin bellach ar ôl canser, clefyd y galon, strôc a chlefyd resbiradol. Mae oddeutu 800 o bobl yn marw o glefyd yr afu yng Nghymru bob blwyddyn.
Rhoddodd y cynllun cyflawni fanylion nodau i wella gweithgarwch a chanlyniadau ar draws chwe thema allweddol:
Mae gennym is-grwpiau yn datblygu meysydd gwaith penodol. Mae’r is-grwpiau wedi datblygu cysylltiadau â Chymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru (WAGE) a Chomisiwn Lancet ar glefyd yr afu yn y DU.