Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau Gofal Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol

Cyflwyniad

Mae'r dudalen ganlynol yn cynnwys gwybodaeth a dolenni ar gyfer Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol. 

Mae'r adnoddau a'r ffurflenni hyn ar gyfer cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’u nod yw darparu dull rhannu a chynnwys Cymru’n Un.

Mae’r dogfennau hyn wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid yn y Grŵp Strategaeth Cynllunio Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol (AFCP) Cymru, sy'n dod o dan adain Bwrdd Gofal Diwedd Oes GIG Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru. Gwnaethpwyd y penderfyniadau sy'n llywio'r ffurflenni hyn ar ôl ymgysylltu'n helaeth â chleifion a gofalwyr.

Mae gan y Grŵp AFCP gynrychiolaeth cleifion ac mae hefyd yn grŵp ar gyfer Cymru gyfan. Mae hefyd wedi'i lywio gan ddata a gasglwyd yn ystod Cynhadledd Genedlaethol Cynllunio Gofal y Dyfodol yng Nghymru.