Neidio i'r prif gynnwy

Teithio, digwyddiadau a gwyliau

Mae llawer o bobl sy’n byw gyda diabetes Math 1 yn teithio o amgylch y byd: gan groesi parthau amser, teithio ar gyfer gwaith a mwynhad, penwythnosau mewn dinasoedd, gwyliau ymlacio, mentrau sgïo, blynyddoedd bwlch, neu wrth geisio prynu tocynnau gwyliau haf nesaf.

Rhaid paratoi a chynllunio unrhyw daith. Bydd cymryd amser i ddiogelu eich diabetes yn helpu i ostwng y risgiau o orfod terfynu taith neu wynebu sefyllfa anodd i ffwrdd o gartref. Bydd yn bwysig iawn os byddwch ar fin teithio am y tro cyntaf heb gwmni eich teulu neu oedolion eraill.

Os byddwch yn aros dros nos, penwythnos neu ychydig fisoedd, ewch â dwywaith eich cyflenwad diabetes arferol gyda chi. Bydd angen trefnu dull addas o bacio eich nwyddau er mwyn nodi lleoliad popeth. Gallai hynny gymryd amser os byddwch am deithio heb lawer o ddillad!