Neidio i'r prif gynnwy

Rhyw, perthnasoedd a diabetes Math 1

Yn gyntaf, nid yw pawb yn gyffyrddus yn trafod rhyw...ond mae’n bwnc pwysig.

Wrth wella dealltwriaeth o ryw a pherthnasoedd, byddwch mewn sefyllfa well i gymryd penderfyniadau, yn cynnwys cadw’n saff a sicrhau na fydd diabetes Math 1 yn profi’n rhwystr.

Chi yn unig fydd yn gwybod pan fyddwch yn barod, ond bydd angen ystyried rhai pwyntiau:

  • Oed cydsynio’r Deyrnas Unedig yw 16
  • Mae’r oed cydsynio’n gymwys i bawb: dim ots pa ryw neu dueddfryd rhywiol
  • Efallai na fydd yr oedran yma yn iawn i chi
  • Bydd llawer o bobl yn aros tan yn hwyrach cyn cael rhyw am y tro cyntaf
  • Bydd pobl yn teimlo’n barod am ryw ar amserau gwahanol, am resymau gwahanol
  • Ni ddylech fod yn destun pwysau gan unrhyw un i gael rhyw