Neidio i'r prif gynnwy

Eich traed a niwropathi

Dros amser, mae llawer o glwcos yn y gwaed yn gallu effeithio nerfau bach iawn mewn rhannau o’r corff, yn cynnwys y traed a choesau.

Mae’n gallu arwain at gyflwr o’r enw niwropathi. Wrth ddysgu am ddiabetes Math 1 a sut i’w reoli, gallwch helpu eich hun i barhau’n iach mor hir â phosibl.

Ni fydd pawb gyda diabetes Math 1 yn cael problem gyda’u traed, ond dylech ddilyn camau syml i ofalu am eich traed. Fodd bynnag, os yn wynebu problemau bydd yn bwysig gwybod ble gallwch gael help.