Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu gyrru a gyrru'n saff

Dim ots os ydych yn edrych ymlaen at eich penblwydd yn 17 oed a’ch gwers yrru gyntaf, neu wedi bod yn gyrru am gyfnod, nod y daflen hon yw eich helpu i ddysgu i fod yn saff ar yr heol fawr.

Mae miloedd o bobl gyda diabetes Math 1 yn gyrru’n ddiogel bob dydd ar draws y Deyrnas Unedig a gyda rhywfaint o gynllunio gofalus nid oes unrhyw beth i’ch rhwystro rhag ymuno â nhw! Mae cyfrifoldebau’n glwm â’r rhyddid hwnnw a chi sy’n gyfrifol am ddilyn y rheolau gyrru diweddaraf.

Mae’r llyfryn hwn yn trafod pwyntiau allweddol yn gysylltiedig â gyrru’n ddiogel gyda diabetes Math 1.