Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynllun blynyddol

Bydd hon yn flwyddyn allweddol i'r Gydweithrediaeth ac yn flwyddyn o bontio. 

Y blaenoriaethau lefel uchel cyffredinol sydd wedi creu'r cynllun hwn yw'r angen i gefnogi'r canlynol:

  • Y gwaith o roi Fframwaith Clinigol Cenedlaethol GIG Cymru a Fframwaith Ansawdd a Diogelwch GIG Cymru ar waith, gan gynnwys dull o ymdrin รข gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth
  • Y gwaith o roi ein rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru ar waith a gwaith cysylltiedig i gefnogi adferiad systemau a arweinir yn glinigol yn sgil effaith pandemig COVID-19
  • Dull mwy cydgysylltiedig a strategol o drefnu a darparu gwasanaethau diagnostig yn GIG Cymru yn y dyfodol
  • Y blaenoriaethau presennol sydd eisoes wedi'u pennu gan ein gwahanol fyrddau rhwydweithiau a rhaglenni a grwpiau gweithredu
  • Y system ehangach wrth ymateb i ofynion Fframwaith Cynllunio GIG Cymru
  • Y broses o gryfhau'r Gydweithrediaeth ei hun ymhellach, er mwyn hwyluso'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau uchod

Byddwn yn parhau i adolygu'r cynllun hwn yn weithredol drwy gydol 2022/23 ac yn sicrhau y caiff ei addasu mewn ffordd reoledig (drwy brosesau llywodraethu priodol) wrth i flaenoriaethau ddatblygu ac wrth i effeithiau a gofynion y Weithrediaeth newydd, y broses o roi'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol a chynllun adferiad GIG Cymru ar waith ddod yn fwy eglur.